Botanegydd a ffotograffydd cynnar Cymreig oedd John Dillwyn Llewelyn, ganed John Dillwyn (12 Ionawr 1810 - Awst 1882; ceir hefyd y ffurf John Dillwyn-Llewelyn weithiau).
John Dillwyn Llewelyn | |
---|---|
Ganwyd | 12 Ionawr 1810 Abertawe |
Bu farw | Awst 1882, 24 Awst 1882 Llundain |
Man preswyl | Penlle'r-gaer |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ffotograffydd, botanegydd |
Tad | Lewis Weston Dillwyn |
Mam | Mary Adams |
Priod | Emma Thomasina Llewelyn |
Plant | Emma Charlotte Dillwyn-Llewelyn, Ellinor Amy Dillwyn-Llewelyn, Lucy Catharine Dillwyn-Llewelyn, Thereza Dillwyn Llewelyn, John Talbot Dillwyn Llewellyn |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Ganed ef yn Abertawe, yn fab hynaf Lewis Weston Dillwyn a Mary (cynt Adams née Llywelyn). Etifeddodd blasdy ei daid ar ochr ei fam, John Llewelyn, ym Mhenlle'r-gaer ac Ynysygerwn, a chymerodd y cyfenw ychwanegol Llewelyn. Addysgwyd ef yn breifat ac yn Rhydychen. Brawd iddo oedd Lewis Llewelyn Dillwyn (1814-1892) a daeth yn Aelod Seneddol Abertawe a chwaer iddo oedd ffotograffydd arloesol Mary Dillwyn (1816-1906)
Yn Ionawr 1839, yn dilyn cyhoeddiadau am brosesau ffotograffig gan William Henry Fox Talbot, oedd yn berthynas i'w wraig, a Louis Jacques Mandé Daguerre, dechreuodd Dillwyn Llewelyn arbrofi. Y broses gyntaf iddo'i ymarfer oedd daguerreotype ond ni chredir i'r un llun oroesi'r blynyddoedd. Mae rhai o'i luniau o brosesau eraill wedi goroesi, fodd bynnag e.e. ceir sawl llun cliché verre a miloedd o luniau calotype a negyddion "collodion".
Roedd yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol, ac yn aelod amlwg ohoni. Roedd yn ffotograffydd tirluniau nodedig, gan ganolbwyntio ar yr ardal o gwmpas Penlle'r-gaer ac ar arfordir Cymru.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Dillwyn Llewelyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.