Gwyddonydd Cymreig oedd Joan Elizabeth Curran (26 Chwefror 1916 – 10 Chwefror 1999) a chwaraeodd ran flaenllaw yn natblygiad y radar a'r bom atomig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Dyfeisiodd 'Chaff', sef offer a oedd yn ymwneud â radar, a honir i'r ddyfais honno arbed miloedd o fywydau awyrlu'r Cynghreiriaid yn ystod y rhyfel. Datblygodd hefyd y 'ffiws-agos' (proximity fuse) a'r broses gwahanu eisotopau ymbelydrol ar gyfer creu'r bom atomig, drwy buro wraniwm.
Joan Elizabeth Curran | |
---|---|
Ganwyd | 26 Chwefror 1916 Abertawe |
Bu farw | 10 Chwefror 1999 o canser Glasgow |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffisegydd, peiriannydd |
Priod | Samuel Curran |
Fe'i ganed ar 26 Chwefror yn Abertawe, yn ferch i Charles Williams Strothers a oedd yn optegydd a'i wraig Margaret Beatrice, née Millington. Yn Ysgol y Merched, yn Abertawe, y derbyniodd ei haddysg uwchradd cyn ennill ysgoloriaeth i Goleg Newnham, Caergrawnt. Yn 1935, rhwyfodd i Glwb Merched y coleg, yn y ras swyddogol gyntaf rhwng Caergrawnt a Rhydychen (yr Henley Boat Race).
Derbyniodd radd gydag anrhydedd mewn ffiseg, ond ni dderbyniodd y radd, gan nad oedd hawl gan ferched ar y pryd i'w dderbyn.
Derbyniodd radd anrhydedd yn y gyfraith, pan oedd yn ei 70au gan Brifysgol Strathclyde.
Derbyniodd nawdd i astudio ar gyfer gradd pellach a throdd ei golygon tua Labordai Cavendish yng Nghaergrawnt, Sam Curran, gan weithio gydag ef mewn tîm dan arolygiaeth Philip Dee. Ar 7 Tachwedd 1940 priododd Joan a Sam Curran.
Yn 1944 fe wahoddwyd y ddau (Joan a Sam) i'r Unol Daleithiau fel rhan o Brosiect Manhattan, i weithiod ar y bom atomig. Roedd llawer o ffisegwyr wedi ymgasglu i weithio o Galiffornia, gyda Mark Oliphant yn eu harwain. Eu gwaith oedd puro wraniwm drwy wahanu'r isotopau. Mae wraniwm naturiol yn cynnwys 99.3% wraniwm-238 a 0.7% wraniwm-235, ond dim ond yr ail isotop ellir ei ddefnyddio i greu bom ac felly roedd yn rhaid darganfod dull i wahanu'r ddau. Gelwir hyn yn 'buro wraniwm' neu 'buro plwtoniwm'. Cynhyrchwyd 50 kg o wraniwm 'pur' ar gyfer Little Boy, bom a ollyngwyd ar ddinas Hiroshima ar 6 Awst 1945 gan ladd 66,000 o bobol ac anafwyd oddeutu 69,000.
Yno, yn Berkley, Califfornia rhoddodd enedigaeth i ferch, a anwyd â phroblemau meddyliol enbyd. Yn ddiweddarach cawsant dri mab.
Ar ddiwedd y Rhyfel, derbyniodd swydd Athro prifysgol Athroniaeth Naturiol ym Mhrifysgol Glasgow. Yno, gyda ffrindiau'r teulu, sefydlodd 'Gymdeithas Plant gyda Phroblemau meddyliol' (Scottish Society for the Parents of Mentally Handicapped Children (byrfodd: Enable), a dyfodd i fod yn gymdeithas o dros gant o ganghennau ledled yr Alban, a 5,000 o aelodau.
Rhwng 1955 a 1959 gweithiodd ei gŵr Sam i'r Atomic Weapons Research Establishment yn Aldermaston ar y bom hydrogen a dychwelodd ati i Glasgow yn 1959 fel Prifathro Coleg Brenhinol Gwyddoniaeth a Thechnoleg (a drodd yn ddiweddarach yn 'Brifysgol Strathclyde' - yn 1964, ac fe'i wnaed yn Brifathro ac Is-Ganghellor y brifysgol newydd. Yr un pryd, sefydlodd Joan the Strathclyde Women's Group ac fe'i gwnaed yn Llywydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Joan Elizabeth Curran, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.