Jinchuriki

Yn y gyfres manga ac anime Naruto, un o'r naw bwystfil cynffonnog, a hefyd rhai o dargedau yr Akatsuki yw Jinchūriki (人柱力 Japaneg).

Mae ganddyn nhw bwêrau cryf iawn, gan fod chakra y bwystfil wedi'i selio tu fewn iddynt.

Jinchuriki
Y Kyuubi o fewn isymwybod Naruto

Fel arfer, pobl unig iawn ydyn nhw. Fel Naruto, roedd pobl y dref yn eu hofni, ac felly yn eu hosgoi pan yn blentyn. Enghraifft arall yw'r cymeriad Killer Bee - Jinchūriki y Hachibi yw e, a gafodd ei drin yn gwael gan bawb ond y Raikage, sef ei frawd.

Effeithiau

Mae yna sawl mantais ac anfantais wrth ddod yn Jinchūriki. Nid Jinchūriki ydynt o enedigaeth - mae'n rhaid cael ninja galluog iawn er mwyn selio'r bwystfil y tu fewn i gorff yr unigolyn. Fel gyda Naruto, fe wnaeth Minato defnyddio'r Dead Demon Consuming Seal er mwyn rhoi'r Kyuubi y tu fewn i gorff Naruto. O ganlyniad i hynny, bu farw Minato ac fe gafodd Naruto gynhwysydd newydd, sef y Kyuubi. O achos hynny, roedd gan Naruto fynediad i chakra y Kyuubi. Yn y manga diweddarach, llwyddodd Naruto i darwthio personoliaeth cas y Kyuubi ac yna cymryd y cyflenwad chakra heb i'r Kyuubi geisio cymryd drosodd ei gorff.

Mantais arall yw'r ffaith bod anafiadau Jinchūriki yn gwella yn gyflymach nag arfer. Rydym yn gweld wrth i'r Kyuubi ceisio cymryd dros corff Naruto, bod gwaed wedi'i gymysgu gyda'r chakra o ganlyniad y niwed mae'r newidiad yn gwneud i'r corff - roedd hynny yn digwydd yn aml yn y gorffennol, a fe wnaeth Naruto gwella'n berffaith. Gall y bwystfil cael ei rheoli fel yn yr achos Killer Bee. Er hynny, dim ond unigolion gyda calon pur gall dysgu'r dechneg yma.

Jinchuriki 
Chiyo yn atgyfodi Gaara

Er y manteision, mae yna anfanteision mawr. Os yw'r bwystfil yn cael ei dynnu o gorff y Jinchūriki, mi fydd y Jinchūriki yn marw o'r effeithiau. Rydym yn gweld sawl enghraifft gyda cynlluniau Akatsuki, a Gaara yw'r unig goroeswr oherwydd help Chiyo.

Os yw'r bwystfil yn llwyddo i gymryd drosodd corff y Jinchūriki, yna mae risg eto y bydd y Jinchūriki yn marw ac felly bydd y bwystfil yn rhydd heb gynhwysydd. Dyma ddigwyddodd ar ôl i fam Naruto roi genedigaeth iddo, gan fod rhoi enedigaeth i'r plentyn yn achosi i'r sêl wanhau ar y pwynt uchaf.

Tags:

AkatsukiAnimeBwystfil cynffonnogJapanegMangaNaruto

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Cysgod TrywerynNaturMarie AntoinetteSaddle The WindMeirion MacIntyre HuwsUTCA Night at The RoxburyCi14eg ganrifRock and Roll Hall of FameBenthyciad myfyrwyrOwain WilliamsTân yn LlŷnRSSIn My Skin (cyfres deledu)Apat Dapat, Dapat ApatMy MistressCreampieRhywogaeth mewn peryglURLIago II, brenin yr AlbanDe CoreaDillagiYsgrifau BeirniadolTonari no TotoroRhagddodiadDwylo Dros y MôrBeilïaeth JerseyMegan Hebrwng MoethusLladinDmitry MedvedevAfon TeifiThe Wilderness TrailStrangerlandEmmanuel MacronRhyw rhefrolJess DaviesTywyddNantwichYn SymlDydd Iau DyrchafaelPARNÆgyptusUrdd Sant FfransisThe AristocatsCodiadHen BenillionYsbyty Frenhinol HamadryadBu・SuIago fab SebedeusLos AngelesWicipediaMichael D. JonesGeraint GriffithsBryn TerfelAled Lewis EvansLlanrwstNewid hinsawddLlithrenBigger Than LifeHogia LlandegaiLDawid JungBrasilMihangelEnglynJust TonyCystadleuaeth Cân Eurovision 2021Coch y BerllanCyfeiriad IPYr EidalSir Gawain and the Green KnightDisturbiaGwynfor Evans🡆 More