Awdures plant a chyn-feirniad llenyddol Cymreig yw Jenny Sullivan (ganed 1945).
Jenny Sullivan | |
---|---|
Ganwyd | 1945 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, beirniad llenyddol, awdur plant |
Ganed Sullivan yng Nghartref Nysio Romilly yng Nghaerdydd, yn ferch i ŵr o Lundain, Frederick Anderson (1900–1993), a oedd yn drydanwr a Phyllis (1905–2009) awdures straeon byrion. Magwyd hi yn ardal Treganna, Caerdydd. Mynychodd Ysgol Gynradd Lansdowne, ac Ysgol Uwchradd Cantonian (a fu ar safle Canolfan Celfyddydau Chapter), cyn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd fel myfyrwraig aeddfed. Bu'n byw yn Rhaglan, Sir Fynwy am ran fwyaf ei bywyd, ond mae eisoes yn byw yn Llydaw. Mae'n briod gyda tair o ferched, Kirsty, Tanith a Stephanie. Tanith yw enw cymeriad yng nghyfres Gwydion.
Gweithiodd Sullivan fel beirniad llenyddol tra'n magu ei phlant. Roedd wastad wedi ysgrifennu ffuglen, straeon byrion ar gyfer oedolion yn bennaf yn ystod ei gyrfa cynnar, ond daeth yn adnabyddus am ysgrifennu straeon i blant (y rhan helaeth yn addas ar gyfer 7-12 oed), sydd yn glynu themau Cymreig at y stori.
Enillodd Tiron's Secret Journal Wobr Tir na n-Og 2006. Enillodd Sullivan y wobr am yr eildro yn 2012 gyda Full Moon.
Cyfres The Magic Apostrophe
Cyfres Gwydion (Wedi ei osod cyn The Magic Apostrophe, cyn i Gwydion gyfarfod Tan'ith)
Cyfres The Back End of Nowhere
Eraill
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Jenny Sullivan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.