Athronydd ac awdur Cymreig oedd John Robert Jones, sy'n fwy adnabyddus fel J.
R. Jones (4 Medi 1911 – 3 Mehefin 1970).
J. R. Jones | |
---|---|
Ganwyd | 4 Medi 1911 Pwllheli |
Bu farw | 3 Mehefin 1970 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, ysgrifennwr |
Cyflogwr | |
Cysylltir gyda | Cymdeithas yr Iaith |
Ganed J. R. Jones ym Mhwllheli, Gwynedd. Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio gyda dosbarth cyntaf mewn athroniaeth cyn gwneud M.A. yn Aberystwyth a D. Phil. yng Ngholeg Balliol, Rhydychen.
Dychwelodd i Aberystwyth fel darlithydd yn 1939, a bu yno hyd nes cael ei benodi'n Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe yn 1952, lle bu hyd ei farwolaeth. Roedd yn briod â Julia Roberts, ac roedd ganddynt un ferch fabwysiedig.
Roedd yn un o gefnogwyr cynharaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac ysgrifennodd nifer o lyfrau ar yr iaith gan gynnwys ei lyfr Prydeindod a oedd yn rhannol yn ymateb i syniadau newydd Owain Owain ar bwysigrwydd Y Fro Gymraeg. Ysgrifennodd hefyd ar grefydd. Dylanwadau eraill arno oedd: Paul Tillich, Simone Weil a Ludwig Wittgenstein.
Mae 'Wedi'r Storm' gan Gerallt Lloyd Owen, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Cerddi'r Cywilydd, yn gerdd er cof am J. R. Jones.
Mae llawer o bamffledi J.R. Jones bellach wedi eu digido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac i'w darllen a lawrlwytho am ddim o lyfrgell y Coleg sydd ar ei gwefan: https://llyfrgell.porth.ac.uk/Default.aspx?search=jr%20jones&show=cats&page=1&fp=0
Cyhoeddodd hefyd nifer fawr o ysgrifau mewn cyfnodolion megis Efrydiau Athronyddol, Y Traethodydd, Proceedings of the Aristotelian Society ac eraill.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article J. R. Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.