Roedd David Ivor Davies neu Ivor Novello (15 Ionawr 1893 – 6 Mawrth 1951) yn ddifyrrwr, yn ddramodydd, yn actor ac yn fab i David Davies a Madame Clara Novello Davies, cantores enwog.
Fe'i ganed yn Llwyn-yr-Eos, Heol y Bontfaen, Dwyrain Caerdydd. Bu farw yn Theatr y Strand, Llundain.
Ivor Novello | |
---|---|
Ffugenw | Ivor Novello |
Ganwyd | David Ivor Davies 15 Ionawr 1893 Caerdydd |
Bu farw | 6 Mawrth 1951 o coronary thrombosis Westminster |
Man preswyl | Littlewick Green |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, dramodydd, cyfansoddwr, ysgrifennwr, sgriptiwr, cyfansoddwr caneuon, actor llwyfan, actor ffilm, canwr, cyfarwyddwr ffilm, libretydd |
Adnabyddus am | Glamorous Night, The Bohemian Girl |
Arddull | sioe gerdd, opereta, neuadd gerddoriaeth |
Mam | Clara Novello Davies |
Priod | Robert Andrews |
Partner | Robert Andrews |
Cyfansoddodd Novello y gân enwog, "Keep the Home Fires Burning" yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd lwyddiant gyda sioeau megis Glamorous Nights a King's Rhapsody.
Pan oedd yn 12 oed, enillodd am ganu dan 12 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon, 1906. Ond cafodd ei garcharu yn ystod yr Ail Ryfel Byd am ddefnyddio petrol anghyfreithlon, profiad a effeithiwyd arno'n fawr. Roedd Novello yn ddyn hoyw agored a hapus. Am 35 mlynedd roedd yn gymar i'r actor Bobbie Andrews, dywedir iddo fod yn gariad i Siegfried Sassoon, y bardd o Sais. Am flynyddoedd llawer bu'n byw yn Littlewick Green, Berkshire.
Mae cerflun ohono ym Mae Caerdydd, sydd y rhestru rhai o'i ganeuon enwocaf.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ivor Novello, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.