Mae ieithoedd yr Undeb Ewropeaidd yn ieithoedd a ddefnyddir tu mewn i aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd.
Maent yn cynnwys 24 iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ynghyd ag ystod o ieithoedd eraill. Mae'r UE yn datgan ar ei wefan Europa: "Ieithoedd: ased Ewrop" ("Languages: Europe's asset"), ac mae gan yr UE Gomisiynydd Ewropeaidd dros Amlieithrwydd, sef Leonard Orban.
Yn yr Undeb Ewropeaidd, cyfrifoldeb yr aelod-wladwriaethau ydy polisi iaith, a nid oes polisi iaith cyffredin gan yr UE. Mae sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd yn chwarae rôl gefnogol yn y maes hwn, yn seiliedig ar "egwyddor cyfrifolaeth". Mae eu rôl yn cynnwys hybu cydweithrediad ymhlith yr aelod-wladwriaethau a hybu'r dimensiwn Ewropeaidd ym mholisïau iaith yr aelod-wladwriaethau. Mae'r UE yn annog ei ddinasyddion i gyd i fod yn amlieithog; yn benodol, mae'n eu hannog i allu siarad dwy iaith yn ogystal â'u mamiaith. Er bod yr UE â dylanwad cyfyngedig iawn yn y maes hwn – gan fod y cynnwys o systemau addysg yn gyfrifoldeb yr aelod-wladwriaethau unigol – mae nifer o raglenni cyllido o'r UE yn hybu'n weithredol dysgu ieithoedd ac amrywiaeth ieithyddol.
Mae gan yr Undeb Ewropeaidd 24 iaith swyddogol:
Er nad ydy'r Gatalaneg, y Fasgeg a'r Aliseg yn ieithoedd swyddogol cenedlaethol yn Sbaen, maent yn gymwys i gael eu defnyddio yn swyddogol yn sefydliadau'r UE fel ieithoedd cyd-swyddogol yn y rhanbarthau priodol.
Mewn ateb i gwestiwn ynghylch y defnydd swyddogol o ieithoedd rhanbarthol y Deyrnas Unedig (y Gymraeg, yr Aeleg a'r Sgoteg), datganodd Gweinidog y DU dros Ewrop, Douglas Alexander, yn 2005 bod y Llywodraeth heb gynlluniau i wneud darpariaethau o'r fath ar gyfer ieithoedd y DU.
Ar wahân i'r ieithoedd uchod, mae nifer o ieithoedd lleiafrifol eraill heb eu cydnabod ar y lefel Ewropeaidd, er enghraifft y Lwcsembwrgeg, yr Ocitaneg, y Ffriseg, a'r Ladino.
Mae'r tabl isod yn dangos y gyfran o ddinasyddion sydd yn gallu siarad yr ieithoedd yn y rhestr – fel mamiaith neu fel iaith dramor. Rhestrir yr ieithoedd a siaradir gan 2% o boblogaeth yr UE o leiaf yn unig.
Iaith | Fel mamiaith (% o boblogaeth yr UE) | Fel iaith dramor (% o boblogaeth yr UE) | Cyfanswm (% o boblogaeth yr UE) |
---|---|---|---|
Almaeneg | 18% | 14% | 32% |
Saesneg | 13% | 38% | 51% |
Eidaleg | 13% | 3% | 16% |
Ffrangeg | 12% | 14% | 26% |
Sbaeneg | 9% | 6% | 15% |
Pwyleg | 9% | 1% | 10% |
Iseldireg | 5% | 1% | 6% |
Groeg | 3% | 0% | 3% |
Swedeg | 2% | 1% | 3% |
Tsieceg | 2% | 1% | 3% |
Portiwgaleg | 2% | 0% | 2% |
Hwngareg | 2% | 0% | 2% |
Rwseg | 1% | 6% | 7% |
Slofaceg | 1% | 1% | 2% |
Catalaneg | 1% | 1% | 2% |
Ffynhonnell: Comisiwn Ewropeaidd (Sylwer: Cyhoeddwyd y data hyn cyn i'r Undeb gael ei ehangu yn 2007.)
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ieithoedd yr Undeb Ewropeaidd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.