Mae Idris Reynolds brifardd, yn fardd toreithiog ac yn awdur nifer o gyfrolau am feirdd a barddoniaeth.
Enillodd ei gyfrol Cofio Dic: Darn o'r Haul Draw yn Rhywle wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2017. Mae’n byw ym mhentref Brynhoffnant gyda’i wraig Elsie. Cyhoeddwyd Ar Ben y Lôn, ei drydedd gyfrol o gerddi, yn 2019.
Idris Reynolds | |
---|---|
Ganwyd | 1942 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1989 am ei gerdd Y Daith ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1992 am ei gerdd A Fo Ben a hynny degawd wedi dysgu crefft y gynghannedd.
Bu hefyd yn "Fardd y Mis" ar BBC Radio Cymru yn mis Chwefror 2017. Bu iddo ymddangos hefyd ar Podlediad Clera ym mis Ebrill 2019.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Idris Reynolds, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.