Roedd Hugh Owen Thomas (23 Awst 1834 - 6 Ionawr 1891) yn llawfeddyg Cymreig.
Fe'i hystyrir yn dad i lawdriniaeth orthopedig ym Mhrydain.
Hugh Owen Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 23 Awst 1834 Bodedern |
Bu farw | 6 Ionawr 1891 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llawfeddyg, orthopedian |
Roedd Hugh Owen Thomas yn un o deulu Meddygon Esgyrn Môn; disgynyddion i fachgen ifanc a gafodd ei longddryllio ger Ynys Môn rhywbryd rhwng 1730 a 1745. Rhoddwyd yr enw Evan Thomas i'r bachgen gan y teulu a fabwysiadodd ac a magwyd ef, sefydlodd draddodiad teuluol o osod esgyrn. Roedd Evan Thomas - ŵyr y goroeswr gwreiddiol, sef tad Hugh - wedi symud i Lerpwl yn 19 oed. Sefydlodd ymarfer llwyddiannus fel gosodwr esgyrn. Fodd bynnag, nid oedd Evan yn feddyg hyfforddedig, ac ar dri achlysur cafodd ei ddwyn o flaen llys barn i amddiffyn ei waith a llosgwyd ei gartref gan ei wrthwynebwyr. Er na chafodd euogfarn yn ei erbyn erioed, roedd eiddigedd a gelyniaeth gyson y gymuned feddygol tuag ato yn peri loes iddo. O ganlyniad i hyn, penderfynodd anfon pob un o'i pum mab i hyfforddi a chymhwyso fel meddygon.
Roedd Hugh Owen Thomas yn un o saith o blant (5 mab a 2 ferch) Evan Thomas a Jane Owen ei wraig. Ganwyd Hugh ym Modedern pan oedd ei rieni wedi dychwelyd i Fôn am wyliau. Roedd Hugh yn blentyn gwan a gan fod ei rieni yn poeni am ei iechyd danfonwyd ef at ei nain a'i daid yn Rhoscolyn tan oedd yn 13 mlwydd oed.
Cafodd ei addysg yn ysgol Owen Roberts, Bodedern. Yn yr ysgol cafodd ei lygad ei anafu pan daflodd bachgen garreg ato. Oherwydd hyn fe ddechreuodd gwisgo cap pig gyda'r pig wedi ei dynnu i lawr dros ei lygad gwan i'w hamddiffyn, bu hefyd yn gwisgo patsh môr leidr dros y llygad drwg yn aml.
Symudodd yn ôl i Lerpwl i fyw gyda'i rieni yna, pan oedd yn 13 oed. Wedi dychwelyd i Lerpwl mynychodd ysgol breifat yn New Brighton hyd gyrraedd ei 17 mlwydd oed.
Hyfforddodd Hugh gyda'i ewythr, Dr Owen Roberts, yn Llanelwy am bedair blynedd, yna bu'n astudio meddygaeth yng Nghaeredin. Yng Nghaeredin roedd wedi ei synnu bod cymaint o dorri allan cymalau yn cael eu defnyddio i drin y diciâu. Roedd wedi gweld ei dad yn trin y cleifion hyn gyda chanlyniadau gwell heb lawfeddygaeth . Ar ôl tair blynedd yng Nghaeredin aeth i Ysbyty Coleg y Brifysgol yn Llundain gan raddio gyda MRCS a LRCP ym 1857.
Ar ôl graddio aeth i Baris i hyfforddi am gyfnod cyn dychwelyd i Lerpwl ym 1858 lle dechreuodd weithio gyda'i dad a'i frawd yn Crosshall Street cyn dechrau ei bractis ei hun ym 1859. Doedd gan Dr Thomas dim cysylltiad ag unrhyw ysbyty, bu'n gweithio o'i gartref. Roedd yn ymwneud â llawfeddygaeth gyffredinol ond bu'n arbenigo yn grefft ei hynafiaid o drin camffurfiadau, torasgwrn a datgymaliadau.
Er ei fod yn llawfeddyg amlwg oedd yn gallu codi ffioedd uchel am ei waith nid golud oedd popeth iddo. Roedd ochr garedig a hael i gymeriad Dr Thomas a ddangoswyd yn ei driniaeth o gleifion tlawd. Pob dydd Sul byddai'n agor ei feddygfa i roi triniaeth am ddim i'r sawl nad oeddynt yn gallu fforddio talu am ofal llawfeddyg.
Yng nghefn ei dŷ roedd ganddo weithdy lle fu yn dyfeisio a chreu offer i gynorthwyo gyda'i gwaith. Cyflogai of a gweithiwr lledr i'w gynorthwyo i greu ei offer .. Bu ei gyfraniadau i faes orthopedig trwy ei ddyfeisiadau yn lluosog. I drin toresgyrn a'r diciâu roedd yn argymell gorffwys, a ddylai cael ei "orfodi, bod yn ddi-dor ac yn hir". Er mwyn cyflawni hyn, creodd y Sblint Thomas, a fyddai'n sefydlogi morddwyd wedi'i dorri a'i atal rhag cael haint. Mae hefyd yn gyfrifol am nifer o arloesiadau meddygol eraill y mae pob un ohonynt yn cario'i enw: Coler Thomas i drin diciâu yn asgwrn ceg y groth, Symudiad Thomas, ymchwiliad orthopedig i ganfod os oedd clun wedi ei dorri. Roedd Prawf Thomas, yn ddull o ganfod camffurfiad y glun tra bod y claf yn gorwedd yn fflat yn y gwely . Roedd Tyndro Thomas , ar gyfer lleihau toriadau. Dyfeisiodd teclyn i dorri esgyrn er mwyn eu hail osod yn gywir. Mae Sawdl Thomas yn rhan o esgid i blant sy'n cynnwys sawdl hanner modfedd (12 mm) yn hirach, ac wythfed i chweched o fodfedd (4 i 6 mm) yn uwch ar y tu mewn. Mae'n yn cael ei ddefnyddio hyd heddiw i drin ac ail osod troed glwb, ac i atal pantio ar ben asgwrn y ffêr.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf dechreuodd ei nai, Syr Robert Jones, i ddefnyddio Sblint Thomas i drin toresgyrn agored y morddwyd gan leihau'r niferoedd o filwyr bu farw o'r fath doriad o 87% i lai na 8% rhwng 1916 a 1918.
Ym 1864 priododd Elizabeth, merch Robert Jones, pensaer ac adeiladwr, y Rhyl. Nid fu iddynt blant, ac yn 1873 gwahoddwyd nai Elizabeth, Robert Jones, i fyw gyda nhw fel y gallai astudio yn ysgol feddygaeth Lerpwl.
Bu farw yn ei gartref yn Nelson Street, Lerpwl, claddwyd ei weddillion ym mynwent Toxteth.
Er Lles Llawer - Meddygon Esgyrn Môn
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hugh Owen Thomas, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.