Yr Holodomor (Wcreineg: Голодомор) yw'r enw a roddir ar y newyn yn Wcráin, oedd yr adeg honno yn rhan o'r Undeb Sofietaidd, yn 1932-1933.
Roedd yn rhan o newyn ar draws ardal ehangach yn yr Undeb Sofietaidd. Mae amcangyfrifon o'r nifer o bobl a fu farw yn y newyn yn amrywio o 2.2 miliwn hyd 3-3.5 miliwn, gyda'r hanesydd Seising Robert Service yn awgrymu ffigwr o 14 miliwn.
Enghraifft o'r canlynol | Newyn, communist crime, mass killings under communist regimes, hil-laddiad |
---|---|
Lladdwyd | 3,500,000, 4,500,000, 14,500,000 |
Rhan o | Soviet famine of 1932–1933, Holodomors in Ukraine |
Dechreuwyd | 1932 |
Daeth i ben | 1933 |
Lleoliad | Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir gwahaniaeth barn am achos y newyn. Cred rhai ei fod yn ganlyniad anfwriadol newidiadau economaidd radicalaidd yn yr Undeb Sofietaidd, tra cred eraill ei fod wedi ei greu yn fwriadol, i ddinistrio cenedlaetholdeb Wcranaidd.[angen ffynhonnell]
Rhoddwyd y newyddion am y newyn i'r gorllewin yn adroddiadau'r newyddiadurwr Cymreig Gareth Jones. Bu dadl ffyrnig, gyda llawer o gefnogwyr yr Undeb Sofietaidd yn y gorllewin yn gwadu gwirionedd ei adroddiadau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Holodomor, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.