Actores a chyflwynwraig o Gymraes oedd Heulwen Hâf (1 Awst 1944 – 5 Rhagfyr 2018).
Roedd yn llais ac yn wyneb cyfarwydd ar S4C drwy ei gwaith fel cyhoeddwr dilyniant y sianel ac fel cyfrannwr ar nifer o raglenni.
Heulwen Hâf | |
---|---|
Ganwyd | 1 Awst 1944 Corwen |
Bu farw | 5 Rhagfyr 2018 Caerdydd |
Man preswyl | Llandaf |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, cyflwynydd teledu, canwr |
Cyflogwr |
Fe'i ganwyd yng Nghorwen. Roedd ei thad yn gigydd lleol ac roedd ganddi frawd a chwaer hŷn. Roedd ganddi siop trin gwallt ei hun yn 20 mlwydd oed ac fe weithiodd fel rheolwr yn siop Harrods, Llundain. Yn 24 oed priododd gyfreithiwr o Lerpwl ond fe wahanodd erbyn iddi fod yn 29 oed. Yn dilyn torcalon yr ysgariad, treuliodd ddwy flynedd yn Ysbyty Meddwl Dinbych..
Yn 1969, cystadleuodd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru.
Roedd yn byw yn Llandaf, Caerdydd ers diwedd yr 1980au a gweithiodd fel actores, cyflwynydd a therapydd amgen. Canfuwyd fod ganddi gancr y fron yn Ebrill 2008 ac yn 2009 darlledwyd rhaglen Blodyn Haul ar S4C oedd yn dogfennu ei brwydr gyda'r afiechyd.. Yn 2011 cyhoeddodd lyfr ffeithiol Bron yn Berffaith oedd yn adrodd hanes ei brwydr gyda chancr y fron.
Yn Nhachwedd 2018 gwnaeth gyfweliad olaf gyda rhaglen Heno yn sgwrsio am hanes ei bywyd.
Bu'n gweithio fel cyhoeddwr rhaglenni ar S4C am bymtheg mlynedd. Roedd hefyd wedi actio ar Pobol y Cwm. Bu'n chwarae rhan Magda yn y gyfres Lan a Lawr ar S4C ac roedd wedi ymddangos ar Casualty ar BBC One.
Yn 2013, ymddangosodd mewn ffilm fer Fi a Miss World, rhan o gynllun It's My Shout ac fe'i dangoswyd fel rhan o dymor pobl ifanc S4C - Tro Ni. Roedd yn chwarae hen ddynes o'r Bala gyda golygfa freuddwydiol lle mae'n cofio am ei chyfnod fel Miss World.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Heulwen Hâf, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.