Athronydd Henry Jones: Athronydd

Athronydd Cymreig oedd Syr Henry Jones (30 Tachwedd 1852 – 4 Chwefror 1922).

Henry Jones
Athronydd Henry Jones: Magwraeth ac addysg, Gwaith, Llyfryddiaeth
Ganwyd30 Tachwedd 1852 Edit this on Wikidata
Llangernyw Edit this on Wikidata
Bu farw4 Chwefror 1922 Edit this on Wikidata
Tighnabruaich Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, ysgrifennwr, academydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd yr Academi Brydeinig, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Magwraeth ac addysg

Ganwyd ef yn Llangernyw, Sir Ddinbych (Sir Conwy heddiw), yn fab i grydd. Astudiodd yng Ngholeg Normal, Bangor a dod yn athro yn Ysgol Elfennol Brynaman yn 1870. Ar ôl penderfynu mynd am y weinidogaeth enillodd ysgoloriaeth y Dr. Williams, ac yn 1875 aeth i Brifysgol Glasgow lle bu Edward Caird yn ddylanwad arno. Graddiodd yn 1878, ac enillodd gymrodoriaeth Clark, a'i galluogodd i astudio ymhellach yn Glasgow am bedair blynedd, a chynnwys cyfnodau byrion yn Rhydychen ac yn yr Almaen.

Bu'n athro athroniaeth ac economi gwleidyddol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor; athro rhesymeg a metaffiseg ym Mhrifysgol St. Andrews; darlithydd Hibbert ar fetaffiseg yng Ngholeg Manchester, Rhydychen.

Yn 1882 priododd Annie Walker, Kilbirnie.

Gwaith

Penodwyd Henry Jones yn ddarlithydd mewn athroniaeth yn Aberystwyth yn 1882 ac yn athro ym Mangor ddwy flynedd wedyn; bu hefyd yn St Andrews yn 1891 ac yn Glasgow, gan lenwi esgidiau gweigion E. Caird yn 1894. Roedd dehongliad Caird o idealiaeth Hegel yn sylfaen i'w athroniaeth, ond cyfrannodd y Beibl a'r prifeirdd hefyd at ei feddwl a'i arddull. Roedd gwerthoedd moesol hefyd yn sylfaen ac arferai bwysleisio anfeidroldeb a meidroldeb dyn.

Ei waith pwysicaf yw ei lyfrau ar Browning (1891), Lotze (1895) ac A Faith that Enquires (1922) — darlithiau Gifford a draddodwyd yn Glasgow rhwng 1920-1.

Bu'n un o aelodau gwreiddiol y Comisiwn Brenhinol ar yr Eglwys yng Nghymru yn 1906, cyn ymddeol blwyddyn yn ddiweddarach.

Llyfryddiaeth

  • A Critical Account of the Philosophy of Lotze (1895)
  • Old memories Hunangofiant. Hodder & Stoughton (1900)
  • Browning as a Philosophical and Religious Teacher (1891)
  • Dinasyddiaeth Bur ac Areithiau Eraill Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru (1911)
  • A Faith that Enquires (1922)

Cyfeiriadau

Athronydd Henry Jones: Magwraeth ac addysg, Gwaith, Llyfryddiaeth Athronydd Henry Jones: Magwraeth ac addysg, Gwaith, Llyfryddiaeth  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Athronydd Henry Jones Magwraeth ac addysgAthronydd Henry Jones GwaithAthronydd Henry Jones LlyfryddiaethAthronydd Henry Jones CyfeiriadauAthronydd Henry Jones1852192230 Tachwedd4 ChwefrorAthronyddCymry

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Gweriniaeth Pobl TsieinaTulia, TexasGwam1942Gweddi'r ArglwyddFaytonçuPencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2008The Disappointments RoomMwyn1955AmmanLast LooksSefydliad WicifryngauGolffTîm Pêl-droed Cenedlaethol yr EidalStar TrekWicipedia CymraegJuan Antonio VillacañasRhestr bandiau923Derbynnydd ar y top1956The ApologyChicagoMecsicoTîm Pêl-droed Cenedlaethol SbaenTitan (lloeren)1918Y Fari LwydSian PhillipsY CremlinCiwbaCyfathrach Rywiol FronnolTwo For The MoneyAlbert CamusCrimeaStygianBrexitDylan Ebenezer2022AsthmaCyfarwyddwr ffilm26 MawrthAlbert II, brenin Gwlad BelgBoris JohnsonLlenyddiaeth yn 2023Seland NewyddUsenetRygbi'r undebCwpan y Byd Pêl-droed 2010Cascading Style SheetsTîm Pêl-droed Cenedlaethol Gwlad PwylPencampwriaeth Pêl-droed EwropFfŵl EbrillGwrthglerigiaethGNAT1Fideo ar alwEidalegCedor🡆 More