Hassan Rouhani (Persieg: حسن روحانی ) (ganwyd 12 Tachwedd, 1948) yw 7fed arlywydd Iran.
Mae hefyd yn gleric Mwslemaidd (gyda statws Mujtahid Shia), cyfreithiwr,:410 academic a chyn-ddiplomat.
Hassan Rouhani حسن روحانی | |
---|---|
Hassan Rouhani | |
Llywydd Iran | |
Yn ei swydd 3 Awst 2013 – 5 Awst 2021 | |
Vice President | Eshaq Jahangiri |
Uwch Arweinydd | Ali Khamenei |
Rhagflaenwyd gan | Mahmoud Ahmadinejad |
Dilynwyd gan | Ebrahim Raisi |
Manylion personol | |
Ganwyd | Sorkheh, Iran | 12 Tachwedd 1948
Priod | Sahebeh Rouhan (1969–presennol) |
Plant | 5 |
Cartref | Plasdy Sa'dabad (Official) Jamaran (Private) |
Alma mater | Qom Hawza Prifysgol Tehran Prifysgol Caledonian Glasgow |
Llofnod | |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Cafodd ei eni yn Sorkheh, Iran. Cymerodd drosodd ar ôl Mahmoud Ahmadinejad fel seithfed arlywydd ei wlad ar 3 Awst, 2013. Mae'n rhugl mewn Persieg, Saesneg ac Arabeg.
Bu'n aelod o "Gynulliad yr Arbenigwyr" ers 1999, yn aelod o Gyngor Dirniadaeth Cyfleustra (Expediency Discernment Council) ers 1991, yn aelod o Uwch Gyngor Dros Ddiopgelwch Cenedlaethol ers 1989, a Phennaeth y Ganolfan dros Ymchwil ers 1992.
Ar 7 Mai 2013, cofrestrodd Rouhani ar gyfer etholiad Arlywydd Iran (a gynhaliwyd 14 Mehefin 2013). Dywedodd y byddai'n llunio "Siarter Hawliau Dinesig" pe bai'n cael ei ethol, yn adfer economi'r wlad, ac yn gwell perthynas ei wlad gyda gwledydd y Gorllewin. Caiff ei ystyried yn wleidyddol fel person canol y ffordd. Fe'i etholwyd ar y 15fed o Fehefin pan drechodd maer Tehran sef Mohammad Bagher Ghalibaf a phedwar ymgeisydd arall. Dechreuodd ar ei waith ar 3 Awst 2013.
Ganwyd Hassan Rouhani (ganwyd Hassan Fereydoun) ar 12 Tachwedd 1948 yn Sorkheh, ger Semnan, a hynny o fewn teulu crefyddol. Cadwodd ei dad Haj Asadollah Fereydoun siop sbeis, yn Sorkheh ac mae ei fam bellach yn byw yn Semnan efo ei merched a'i mab-yng-nghyfraith. Credir fod Asadollah Fereydoun wedi bod wrthi'n wleidyddol yn erbyn Mohammad Reza Shah Pahlavi, sef Shah (neu frenin) Iran, ac iddo gael ei arestio y tro cyntaf ym 1962, a thros 20 o weithiau wedyn, cyn Chwyldro Iran yn 1979.
Cychwynodd Rouhani ei astudiaethau crefyddol ym 1960, yn gyntaf yn y Semnan Seminary:55 ac yna yn Qom Seminary ym 1961.:76 Bu yn nosbarthiadau ysgolheigion enwog yn y cyfnod gan gynnwys Mohammad Mohaghegh Damad, Morteza Haeri Yazdi, Mohammad-Reza Golpaygani, Soltani, Mohammad Fazel Lankarani, a Mohammad Shahabadi.:81 Yn ogystal, astudiodd gyrsiau modern a chafodd ei dderbyn i Brifysgol Tehran ym 1969, lle cafodd radd B.A. yn y Gyfraith ym 1972.:309–312 Ym 1973, ymunodd â'r fyddin yn ninas Nishapur.
Parhaodd gyda'i astudiaethau ym Mhrifysgol Caledonian Glasgow gan raddio ym 1995 gyda gradd Meistr mewn Athroniaeth a'r Gyfraith; teitl ei draethawd oedd "The Islamic legislative power with reference to the Iranian experience". Yna cwbwlhaodd Ph.D. yn y Gyfraith ym 1999 am waith ar "The Flexibility of Shariah (Islamic Law) with reference to the Iranian experience".
Roedd polisiau Rouhani pan gafodd ei wneud yn Arlywydd yn cynnwys:
Mae Rouhani'n gredwr cryf mewn hawliau merched, fel y gwelwyd o araith a wnaeth yn syth wedi iddo gael ei wneud yn Arlywydd y wlad, pan ddywedodd: "Mae'n rhaid cael hawliau cyfartal i ferched. 'Does dim gwahaniaeth rhwng dyn a dynes o ran eu creadigaeth, o ran eu hawch am wybodaeth, o ran eu dyneiddiwch nac o ran eu gwybodaeth, eu gallu na'u gwasanaeth i Dduw a dynoliaeth."
Ym Medi 2013 gorchymynodd ryddhau 11 carcharor gwleidyddol gan gynnwys y cyfreithiwr Nasrin Sotoudeh a'r gwleidydd Mohsen Aminzadeh.
Parthed sensoriaeth y we, cyhoeddodd: "Diflanodd y dyddiau o godi muriau o amgylch Iran! Heddiw nid oes waliau'n bod." Beirniadodd gorff Darlledu Gweriniaeth Iran am ddangos manion dibwys o "newyddion" tramor, ac ar yr un pryd yn anwybyddu pethau o bwys mawr. Ymddangosodd ei fod yn awyddus i wneud y rhyngrwyd yn fwy hygyrch i'r Iraniad cyffredin, ac i gyfryngau cymdeithasol a rhyddid cymdeithasol. Dywedodd: "Dymunaf weld ein pobl, yn eu bywydau preifat, i fod yn gwbwl rhydd, ac yn medru derbyn gwybodaeth o fewn y byd mawr a thrafodaethau rhydd a meddyliau rhydd."
Parthed Unol Daleithiau'r America, datganodd ei awydd i ymweld ac i agor trafodaethau - a hynny wedi 32 mlynedd o ddiffyg trafod gan y ddwy ochr. Ond pan ofynnodd Obama am gyfarfod un-i-un fe'i gwrthodwyd. Ar 27 Medi 2013, ddiwrnod ar ôl i ddau weinidog tramor y ddwy wlad gyfarfod cynhaliodd Rouhani ac Obama sgwrs ffôn sy'n cael ei gyfri'n garreg filltir bwysig rhwng y ddwy wlad.
Disgrifiodd Rouhani Israel fel gwlad sydd wedi "cymeryd drosodd tirioedd yn anghyfreithlon" a bod "yr anghyfiawnder hwn i bobl y tiroedd hyn wedi dod ag ansefydlogrwydd i'r ardal, yn bennaf oherwydd polisiau milwrol Israel."
Pan ofynnwyd iddo a fu'r fath beth a'r holocost, atebodd: "Gwleidydd ydw i, nid hanesydd."
Fel Athro Prifysgol yng Nghanolfan Ymchwil Iran mae wedi cyhoeddi nifer helaeth o lyfrau mewn Persieg, Arabeg a Saesneg, gan gynnwys:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hassan Rouhani, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.