Canwr opera o Gymru yw Gwynne Howell (ganwyd 13 Mehefin 1938); mae ganddo lais bas.
Caiff ei adnabod yn benaf am ei berfformiadau o Verdi a Wagner.
Gwynne Howell | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mehefin 1938 Gorseinon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr opera, perfformiwr |
Arddull | opera |
Math o lais | bas |
Fe'i ganed yng Ngorseinion cyn i'r teulu symud i Waencaegurwen; wedi gadael yr ysgol leol astudiodd yn yr RMCM; yno canodd Leporello mewn cyngherddau a daeth yn enwog am ei berfformiadau llwyfan o Hunding, Fasolt, a Pogner. Ymunodd â Theatr Sadler's Wells yn 1968, a'r Tŷ Opera Brenhinol yn 1970. Bu'n westai rheolaidd yn Opera Cenedlaethol Lloegr ac Opera Cenedlaethol Cymru.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwynne Howell, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.