Mae Golwg360 yn wasanaeth newyddion dyddiol arlein a lansiwyd ym mis Mai 2009.
Enghraifft o'r canlynol | gwefan |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2009 |
Gwefan | http://www.golwg360.com |
Ariennir Golwg360 trwy gymysgedd o grantiau cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a gwerthiant hysbysebion a gwasanaethau masnachol drwy'r wefan. Derbyniodd grant dechreuol o £600,000 dros gyfnod o dair mlynedd, gan roi diwedd ar obeithion Dyddiol Cyf am gael arian cyhoeddus ar gyfer papur dyddiol print Cymraeg Y Byd. Ym Mawrth 2011 cafodd Golwg360 estyniad i'w grant am dair mlynedd arall wedi adroddiad ffafriol gan Wavehill Consulting.
Er bod cryn gydweithio rhwng y Cylchgrawn Golwg a Golwg360 ar sawl lefel, yn wreiddiol roedd y ddau wasanaeth yn gweithredu fel busnesau ar wahân ac roedd gan y ddau olygyddion gwahanol. Yn Ebrill 2020 cyfunwyd y swyddi gan roi swydd Prif Olygydd i Golwg a Golwg360. Ers Hydref 2009, Owain Schiavone yw Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Golwg Newydd (Golwg360) ac mae'n gyfarwyddwr Golwg Cyf.
Ifan Morgan Jones oedd golygydd cyntaf Golwg360, yn ei swydd rhwng Ionawr 2009 a Medi 2011.. Cymerodd Bethan Lloyd y swydd yn 2011. Ym mis Mawrth 2020 apwyntiwyd Garmon Ceiro fel golygydd y cylchgrawn Golwg a gwefan Golwg360, a cychwynodd ei swydd ym mis Ebrill. Ers 2022, Alun Rhys Chivers yw’r golygydd.
Mae prif adrannau'r wefan yn cynnwys:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Golwg360, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.