Anthem a geir mewn sawl gwlad, yn arbennig y gwledydd sy'n aelod o'r Gymanwlad, yw God Save the King neu God Save the Queen.
Hon yw anthem genedlaethol y Deyrnas Unedig a thiriogaethau tramor Prydain. Mae fersiwn o'r anthem hefyd yn anthem genedlaethol Ynys Norfolk, un o ddwy anthem genedlaethol Ynysoedd Caiman a Seland Newydd (ers 1977) ac anthem brenhinol Canada (ers 1980), Awstralia (ers 1984), Ynys Manaw, Jamaica, Liechtenstein, Twfalw a Norwy (Gud Sign Vår Konge God). Dyma anthem genedlaethol de facto Lloegr hefyd, er nad oes gan y wlad honno anthem genedlaethol swyddogol, a genir cyn gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol ac ar achlysuron eraill.
God Save the King (fersiwn safonol) |
* Pan mae'r un sy'n teyrnasu yn fenywaidd newidir y geiriau yn y llinell olaf i "with heart and voice to sing/ God Save the Queen". Newidir hefyd "Scatter Her Enemies" yn "Scatter Her Enemies". |
Yn 1822 ychwanegwyd y pennill hiliol canlynol:
Nid oes fersiwn ddiffinadol o'r geiriau, ond ystyrir gan rai y fersiwn â thri phennill i fod yn fersiwn safonol y Deyrnas Unedig. Ymddangosodd y fersiwn hon yn Gentleman's Magazine 1745, ac mewn cyhoeddiadau megis The Book of English Songs: From the Sixteenth to the Nineteenth Century (1851), National Hymns: How They are Written and how They are Not Written (1861), Household Book of Poetry (1882), a Hymns Ancient and Modern, revised version (1982). Mae'r un fersiwn, ond heb yr ail bennill, yn ymddangos yn Scouting for boys (1908), ac ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig, "Monarchy Today" website.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article God Save the King, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.