Iaith Gartfelaidd yw Georgeg (ქართული ) a siaredir gan Georgiaid.
Hi yw iaith swyddogol Georgia yn y Cawcasws. Mae ganddi ei hwyddor arbennig ei hun.
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith lenyddol, iaith fyw |
---|---|
Math | Karto-Zan |
Rhagflaenwyd gan | Old Georgian |
Yn cynnwys | Adjarian dialect |
Enw brodorol | ქართული ენა |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | ka |
cod ISO 639-2 | geo, kat |
cod ISO 639-3 | kat |
Gwladwriaeth | Georgia, Twrci, Rwsia, Iran, Aserbaijan, Armenia |
Rhanbarth | De y Cawcasws |
System ysgrifennu | yr wyddor Sioraidd, Braille Georgeg, Asomtavruli, Nuskhuri, Mkhedruli |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Georgeg yn perthyn i deulu'r ieithoedd Cartfeleg - a hi yw'r iaith fwyaf adnabyddus yn y teulu, gyda'r nifer uchaf o siaradwyr. Ac eithrio theorïau amheus, does dim cysylltiad genynnol wedi ei brofi rhwng yr ieithoedd hyn ag unrhyw deulu arall yn y byd. O blith y ieithoedd Cartfelaidd eraill, yr ieithoedd Zan sydd â'r berthynas agosaf at Sioreg; mae ymchwil yn awgrymu iddyn nhw ymwahanu tua 2700 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r iaith Svan yn perthyn o bell hefyd, ond ymwahanodd Svan a'r ieithoedd eraill oddeutu 4000 o flynyddoedd yn ôl.
Llythyren | Trawsgrifiad swyddogol | Trawsgrifiad IPA |
---|---|---|
ა | a | ɑ |
ბ | b | b |
გ | g | ɡ |
დ | d | d |
ე | e | ɛ |
ვ | v | v |
ზ | z | z |
თ | t | tʰ |
ი | i | i |
კ | k’ | kʼ |
ლ | l | l |
მ | m | m |
ნ | n | n |
ო | o | ɔ |
პ | p’ | pʼ |
ჟ | zh | ʒ |
რ | r | r |
ს | s | s |
ტ | t’ | tʼ |
უ | u | u |
ფ | p | pʰ |
ქ | k | kʰ |
ღ | gh | ɣ |
ყ | q’ | qʼ |
შ | sh | ʃ |
ჩ | ch | t͡ʃʰ |
ც | ts | t͡sʰ |
ძ | dz | d͡z |
წ | ts’ | t͡sʼ |
ჭ | ch’ | t͡ʃʼ |
ხ | kh | x |
ჯ | j | d͡ʒ |
ჰ | h | h |
Georgeg yw iaith swyddogol Georgia. Yn Abchasia a De Osetia, mae'r sefyllfa'n wahanol, gyda'r llywodraethau sydd ohoni yn hyrwyddo Abchaseg Oseteg a Rwseg ar draul y Georgeg. Mae llywodraeth Abchasia yn honni hyrwyddo addysg yn Oseteg, ond mewn gwirionedd addysg cyfrwng Rwseg sydd ar gynydd yno.
Siaredir Georgeg mewn rhannau o Iran megis ardal Fereydan ger Isfahan, ond nid oes gan yr iaith unrhyw fath o statws swyddogol yno.
Vladimir Mayakovsky
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Georgeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.