Cyfansoddwr Awstraidd oedd Franz Peter Schubert (31 Ionawr 1797 – 19 Tachwedd 1828).
Franz Schubert | |
---|---|
Ganwyd | Franz Peter Schubert 31 Ionawr 1797 Himmelpfortgrund, Fienna |
Bu farw | 19 Tachwedd 1828 o teiffoid Fienna |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Awstria, Archddugiaeth Awstria |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, pianydd, athro |
Adnabyddus am | Symphony No. 8, Symphony No. 9, Symphony No. 3, Winterreise, Death and the Maiden, Ellens dritter Gesang |
Arddull | cerddoriaeth glasurol |
Tad | Franz Theodor Schubert |
llofnod | |
Ganed Schubert yn Himmelpfortgrund, gerllaw Fienna, y trydydd ar ddeg o un ar bymtheg o blant. Roedd eisoes yn cael gwersi cerddoriaeth gan ei dad, Franz Theodor Schubert, pan oedd yn chwech oed. Ym mis Hydref 1808, daeth yn aelod o'r côr yn Hofkapelle Fienna. Ceir y dyddiad 8 Ebrill - 1 Mai 1810 ar un o'i gyfansoddiadau cynnar.
Bu'n athro cynorthwyol am gyfnod, ond fel arall nid oedd ganddo ffynhonnell ddibynadwy o arian. Bu yn Hwngari am gyfnod yn 1818 gweithio fel athro cerddorol i deulu Esterházy. Dim ond wedi ei farwolaeth y daeth ei gerddoriaeth yn wirioneddol boblogaidd, ond perfformiwyd dwy opera o'i waith yn 1820 a chafodd lwyddiant gyda chyhoeddi Opus 1–7 a 10–12 yn 1821/2. Erbyn hyn roedd ei iechyd yn dirywio. Bu farw ar 19 Tachwedd 1828 (195 blynedd yn ôl) wedi pythefnos o dwymyn. Claddwyd ef yn mynwent Währinger, Fienna, heb fod ymhell o fedd Ludwig van Beethoven.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Franz Schubert, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.