Clefyd mewn moch fel arfer o'r is-deip ffliw H1N1 yw ffliw moch.
Yn anaml trosglwyddir ffliw moch i fodau dynol, ond weithiau gall bobl sydd wedi cael cysylltiad agos â moch gael eu heintio.
Achoswyd pandemig ffliw moch 2009 gan feirws H1N1.
I raddau helaeth, yr un yw symptomau ffliw moch â symptomau ffliw arferol, ond gallant fod yn fwy llym ac achosi cymhlethdodau mwy difrifol. Twymyn sydyn a pheswch sydyn yw'r symptomau nodweddiadol. Gall symptomau eraill gynnwys cur pen, blinder, oerfel, cyhyrau dolurus, poen yn y breichiau a'r coesau neu yn y cymalau, dolur rhydd neu stumog dost, dolur gwddf, trwyn diferllyd, tisian, a cholli archwaeth bwyd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffliw moch, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.