Gohebydd newyddion a gwleidydd Cymreig dros Blaid Cymru oedd Eurig Wyn (10 Hydref 1944 – 25 Mehefin 2019).
Eurig Wyn | |
---|---|
Ganwyd | 10 Hydref 1944 Hermon |
Bu farw | 25 Mehefin 2019 Waunfawr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr |
Swydd | Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop |
Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Ganwyd Eurig yn Hermon ger Crymych. Aeth i astudio yng Ngholeg Aberystwyth cyn mynd i ddysgu yng Nghaerdydd am dair blynedd.
Yna ymunodd a'r BBC gan weithio fel gohebydd chwaraeon ac yn ddarllenwr newyddion ar y rhaglen Heddiw. Symudodd wedyn i fyd gwleidyddiaeth. Roedd yn cynrychioli ward Waunfawr ar Gyngor Gwynedd nes penderfynu ildio'r awenau ym Mehefin 2016. Roedd yn Aelod Senedd Ewrop dros Gymru am bum mlynedd (1999-2004).
Roedd hefyd yn aelod o fwrdd Parc Cenedlaethol, yn Gadeirydd ar Bwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd ac yn gyfarwyddwr i Antur Waunfawr.
Roedd yn briod a Gillian Wyn ac roedd ganddynt ddau o blant, Euros a Bethan. Roedd yn ewythr i Rhys a Llŷr Ifans.
Bu'n dioddef o afiechyd Parkinsons am rhai blynyddoedd cyn ei farwolaeth. Yn dilyn damwain yn Mehefin 2019, cafodd ei gludo i'r adran trawma yn Stoke-on-Trent. Daeth yn ôl wedyn i Ysbyty Gwynedd cyn dod adref i'w gartref lle bu farw nos Fawrth, 25 Mehefin.
Senedd Ewrop | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd | Aelod Senedd Ewrop dros Gymru 1999 – 2004 gyda Jill Evans, Jonathan Evans, Glenys Kinnock ac Eluned Morgan | Olynydd: Jill Evans Jonathan Evans Glenys Kinnock Eluned Morgan dilewyd y 5ed sedd |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eurig Wyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.