Plaid genedlaetholgar, adain-chwith yn anelu at annibyniaeth Catalwnia yw'r Esquerra Republicana de Catalunya (Catalaneg), yn golygu Chwith Weriniaethol Catalwnia.
ERC neu Esquerra (Chwith) yn fyr.
Chwith Weriniaethol Catalwnia | |
---|---|
Ideoleg | Asgell-chwith/Annibyniaeth |
Sefydlwyd | 1931 |
Arweinydd presennol | Oriol Junqueras |
Grŵp Senedd Ewrop | Gwyrdd-Gynghrair Rhydd Ewrop (EFA) |
Gwefan | http://www.esquerra.cat/ |
Mae canran uchel o aelodaeth Esquerra, fel nifer o bleidiau Catalanaidd eraill sy'n ceisio annibyniaeth, o'r farn nad Cymuned Ymreolaethol Catalwnia yn unig sy'n ffurfio'r genedl Gatalanaidd, ond hefyd y tiriogaethau eraill lle siaredir Catalaneg, a elwir y Països Catalans ("Y Gwledydd Catalanaidd’’). Maent yn cynnwys y rhan fwyaf o Wlad Falensia , yr Ynysoedd Balearig, rhan o Aragón a Rosellón yn Ffrainc, a elwir yn Ogledd Catalwnia. Mae Esquerra yn sefyll yn etholiadau neu â phresenoldeb trwy’r ardaloedd yma.
Arweinydd presennol y blaid yw Oriol Junqueras, mae gan ERC aelodau yng Nghyngres a Senedd Sbaen a Parlament de Catalunya (Senedd Catalwnia). Mae ei dau aelod o Senedd Ewrop sydd yn eistedd yn grŵp Cynghrair Rhydd Ewrop) gyda chynrychiolwyr pleidiau gwyrddion a chefnogwyr annibyniaeth o sawl gwlad yn cynnwys Plaid Cymru a'r SNP.
Ar 2 Tachwedd 2017, yn dilyn Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 a Datganiad o Annibyniaeth gan Lywodraeth Catalwnia, carcharwyd arweinydd ERC, Oriol Junqueras, gan Lys Cenedlaethol Sbaen, ynghyd ag aelodau eraill o Lywodraeth Catalwnia, oherwydd iddo ymgyrchu dros annibyniaeth Catalwnia.
Sefydlodd glymblaid Gweriniaeth Chwith Catalwnia-Catalwnia Ie (ERC–CatSí) i ymladd Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017. Er i nifer o brif arweinwyr ddal i fod yng ngharchar enillodd ERC–CatSí 6 sedd ychwanegol gan ddod yr ail blaid fwyaf: cyfanswm o 26 sedd.
Sefydlwyd y blaid yn ninas Barcelona yn 1931. Bu ganddi ran bwysig yng ngwleidyddiaeth y 1930au gan ennill etholiadau Catalwnia ym 1934 a 1936 o dan arweiniad Francesc Macià a Lluís Companys a cheisiodd ddatgan Weriniaeth Gatalanaidd erbyn ewyllus llywodraeth Madrid.
Roedd yr ymgais i ddatgan gweriniaeth yn un o’r elfennau argyfwng gwleidyddol Sbaen a wnaeth arwain i ddechrau Rhyfel Cartref Sbaen ym mis Gorffennaf 1936. Daeth Esquerra yn rhan o’r Frente Popular (Ffrynt Poblogaidd) o fudiadau asgell chwith oedd yn brwydro yn erbyn lluoedd ceidwadol asgell dde o dan arweiniad y Cadfridog Francisco Franco.
Yn 1939, wedi colli’r rhyfel, cafodd bleidiau’r Frente Popular eu gwneud yn anghyfreithlon. Cafodd Lluis Companys ei ddienyddio gan sgwad saethu yng Nghastell Montjuïc, Barcelona ym 1941.
Pan ail-seflydlwyd democrataeth yn Sbaen yn dilyn farwolaeth Franco yn 1975 fe ail sefydlwyd Senedd Catalwnia ac mae Esquerra wedi sefyll yr etholiadau.
Enillwyd 23 sedd yn 2003 a ffufwyd clymbaid gyda Partit dels Socialistes de Catalunya (Plaid Sosialaidd Cataonia) ac Iniciativa per Catalunya Verds-Esquerra Unida i Alternativa (ICV-EUiA) (Plaid Werdd Catalwnia – Chwith Uniedig, Amgen).
Yn 2006 penderfynodd Esquerra beidio â chefnogi newidiadau i’r Estatut d'Autonomia de Catalunya (Deddf Datganoli Catalwnia) i roi mwy o hunanlywodraeth i Gatalwnia gan ddadlau nad oedd y newidiadau yn mynd yn ddigon pell.
Mae nifer o bleidiau Catalaneg, yn cynnwys Esquerra, wedi bod yn galw ar Lywodraeth Madrid am y hawl i gynnal reffferendwm ar hunanlywodaeth referèndum d'autodeterminació de Catalunya.
Mae cefnogwyr y Blaid yn defnyddio'r senyera estelada fersiwn o faner senyera Catalwnia gyda seren goch ar gefndir triongl melyn neu seren wen ar gefndir triongl glas, y seren yn sefyll dros annibyniaeth.
Blwyddyn yr etholaid | # o bleidleisiau | % o'r holl bldieais | +/- | |
---|---|---|---|---|
Etholiad Senedd Catalwnia, 1988 | 111,647 | 4.1 (#5) | ||
Etholiad Senedd Catalwnia, 1992 | 210,366 | 7.9 (#3) | 5 | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 1995 | 305,867 | 9.4 (#4) | 2 | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 1999 | 271,173 | 8.6 (#4) | 1 | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 2003 | 544,324 | 16.4 (#3) | 11 | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 2006 | 416,355 | 14.0 (#3) | 2 | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 2010 | 218,046 | 7.0 (#5) | 11 | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 2012 | 496,292 | 13.7 (#2) | 11 | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 2015 | 1,628,714 | 39.6% (#1) | Clymblaid | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 2017 | 929,407 | 21.4% (#1) | Clymblaid |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Esquerra Republicana de Catalunya, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.