Bancwr a Chymro oedd y Dr Emrys Evans (4 Ebrill 1924 – 18 Gorffennaf 2004).
Enw llawn, William Emrys Evans.
Emrys Evans | |
---|---|
Ganwyd | 4 Ebrill 1924 Y Foel |
Bu farw | 18 Gorffennaf 2004 Dinas Powys |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | banciwr, dyngarwr |
Yn fab i ffermwr fferm fach yn Sir Drefaldwyn daeth yn bennaeth Banc y Midland yng Nghymru. Bu'n ddylanwad i Gymreigio'r banc hwnnw. Roedd yn gymwynaswr i nifer o elusennau gan gynnwys Barnados, Tenovus ac Arch Noa sef yr elusen dros sefydlu ysbyty plant yng Nghymru. Bu'n gadeirydd bwrdd rheoli Sioe Amaethyddol Cymru ac yn llywydd yr Eisteddfod Genedlaethol am dair blynedd. Bu hefyd yn drysorydd Undeb yr Annibynwyr.
Bu'n aelod o Gyngor yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd yn 1973.
Priododd Mair Thomas yn 1946 a chawsant un ferch. Roedd y ddau yn byw yn Llundain tra oedd yn gweithio ym mhrif swyddfa'r banc cyn symud i Ddinas Powys, Bro Morgannwg yn 1972. Bu farw yn ei gartref ar 18 Gorffennaf 2004. Bu'r angladd yng nghapel Ebeneser, Stryd Siarlys, Caerdydd, 26 Gorffennaf a'i dilyn gan amlosgi yn Amlosgfa'r Ddraenen (Thornhill), Caerdydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Emrys Evans, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.