Ffurfir eira (hefyd: 'eiry', 'ôd' neu 'nyf') pan fo gwlybaniaeth yn yr awyr yn troi'n grisialau rhew.
Dan rai amgylchiadau, gellir cael eirlaw, sef eira yn gymysg â glaw, neu gesair (cenllysg), sef glaw wedi rhewi.
Enghraifft o'r canlynol | math o ffenomen meteorolegol |
---|---|
Math | dyodiad |
Lliw/iau | gwyn |
Deunydd | grisial iâ, aer |
Yn cynnwys | pluen eira |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fel rheol ceir eira yn y rhannau oeraf o'r byd, yn y gogledd ac yn y de. Yn nes at y cyhydedd, ni cheir eira fel rheol, ond ceir eira ar fynyddoedd uchel e.e. ar fynydd Kilimanjaro yn Tansanïa ac yn yr Andes yn Ne America. Ceir nifer o ddywediadau ar lafar am eira gan gynnwys 'eira mân, eira mawr' a cheir llawer o farddoniaeth amdano gan gynnwys Dafydd ap Gwilym:
Dyma gofnod eira ym mis Hydref gan Steffan ab Owain. “Cafodd Richard Powell ar ei ffordd i Ysbyty Ifan ei ddal mewn storm o eira ar y Migneint a mynd ar goll ac mae'n debyg fferu i farwolaeth. Fe'i claddwyd ar 17 Hydref 1795. Dyddiad tra chynnar am eira trwm” meddai Steffan.
Roedd y cyfeiriad yn yr englyn isod at fis Tachwedd yn arbennig o addas pan y'i cyhoeddwyd ym Mwletin Llên Natur rhifyn 35 (Ionawr 2011) ar ôl gaeaf caled a chynnar a ddechreuodd yn Tachwedd 2010!
Sylwadau am flynyddoedd o eira yn sefyll yn hwyr i'r gwanwyn (fel arfer ar ôl gaeaf oer):
2010
1947
Ar Gader Idris cafodd Peter Benoit o’r Bermo snow patch ar ben Llwybr Gwernan (Fox's Path ar 28 Mai 1947 ar ôl gaeaf oer iawn bythgofiadwy y flwyddyn honno.
Mae’n sefyll i reswm bod eira yn fwy parhaus yn y mynyddoedd nac yn y gwaelodion. Ond mae’n cymryd gwaith i’w brofi. Dyma graff wedi ei seilio ar ddata Les Larsen o’r nifer o ddyddiau o eira ar 9 copa o wahanol uwchder (yn ogystal â Chaernarfon!). Mewn gair, mae parhad yr eira yn dyblu gyda phob 600 o droedfedd o uchder ychwanegol.
Fe gofir hwn fel The Great Victorian Blizzard ar 18 Ion 1881 ond roedd yn rhan o gyfnod hwy o eira neu heth.
Wrth i'r hinsawdd fynd yn gynhesach mae'r newid yn ymddangosiad tymhorol eira ar y mynyddoedd yn fath o procsi i'r newidiadau hynny. Llwyddodd y daearyddwr Les Larsen i gasglu gwybodaeth am ddyddiad yr eira cyntaf pob blwyddyn bron ar y Carneddau, ers y 1940au cynnar. Amlyga'r data dueddiad pendant i eira ddisgyn yn hwyrach wrth i'r cynhesu ehangach fynd rhagddo.
Mae data Les Larsen o ddyddiad diflannu'r eira olaf yn dilyn tuedd i fod yn gynharach dros amser yn adlewyrchu gaeafau sy'n gynyddol dyner, ond nid yw'r duedd honno mor gref.
Mae ambell fwlch yn y cofnodion, er enghraifft pan oedd Les yn yr RAF, ond mae’r gyfres yn dangos yn glir bod tuedd i’r eira cyntaf ddisgyn ar fynyddoedd Eryri yn hwyrach heddiw nac yn nechrau’r cyfnod (ar ôl gwneud y syms, unwaith mewn mil fyddai’r data hyn yn digwydd ar hap). Afraid dweud bod hyn yn gyson a Chynhesu’r Hisawdd.
Mewn cyfweliad gyda William Owen o Ddyffryn Ardudwy ar raglen Dei Tomos ym mis Tachwedd y llynedd, soniodd WO am ei fam Rhinogwen yn cael ei geni (ar yr un diwrnod â Kyffin Williams!) pan oedd eira ar y Rhinogydd gerllaw. Felly y cafodd ei henw Rhinogwen. Y dyddiad hwyr oedd 9ed Mai 1918. Oedd yna eira ar y mynyddoedd ym mis Mai y flwyddyn honno ynteu rhamant teuluol ydoedd? Cofnodion o Ben Llŷn yn unig sydd i’w cael am y cyfnod yn Nyddiadur Llên Natur hyd yn hyn - nid yr ardal orau i brofi eira mis Mai sr y Rhinogydd!
Meddai Bethan Wyn Jones: ”Diolch yn fawr iawn i J. Heddwyn Jones, Dwygyfylchi am ei gasgliad o ddywediadau am y tywydd oer, ac yn arbennig am “cenllysg i eira – crasod i law”. Doeddwn innau chwaith wedi clywed y gair crasod erioed o’r blaen.” Tybed beth yn union a olygwyd gan “crasod”
Dyma erthygl ddaeth i law trwy BWJ: “Yn dilyn y cyfeiriad at odi a chrasod, bum yn siarad â Gareth Pritchard Hughes o Rosllannerchrugog gan fod odi yn air cyffredin yno am fwrw eira. Yn ôl Gareth roedd “Odi” yn arfer cael ei ddefnyddio ar lafar yn siroedd Fflint a Dinbych, ble siaredid yr hen Bowyseg ac mae’n hen air sy’n mynd yn ôl i’r 10fed Ganrif. Mae pennill fel hyn yn y Rhos:
Dydyn nhw ddim yn taflu peli eira yn y Rhos chwaith, maen nhw’n “mopio”. “Mopen” ydi pelen eira. Roedd Euros Bowen wedi dweud mai crasod oedd y gair am genllysg yn Nolgellau – cras ôd. Manod (mân ôd) wedyn ydi eira mân sy’n lluwchio, hynny ydi eira’n cael ei yrru gan y gwynt. Roedd gwedd merch yn cael ei ddisgrifio “fel mannod”. Yn ei Gywydd i Ferch mae Dafydd ab Edmwnd (1450 – 1497) oedd yn dod o Hanmer, ym Maelor Saesneg yn canu fel hyn:
Mae’r Ficer Pritchard wedyn yn disgrifio puredigaeth drwy waed Crist:
Yn y Beibl mae cyfeiriad at ôd yn Diarhebion 26, :
Mae’n siwr fod llawer ohonom yn gyfarwydd â geiriau’r Gelynnen:
Mae hen bennill sy’n canu fel hyn:
Fe ganodd Gwenallt:
Ac meddai William Llŷn:
A hon gan T. Eurig Davies:
cf. Gwydd. Canol snige ‘diferu, bwrw (glaw, eira, &c.)’, Llad. nix, nivis ‘eira’: o’r gwraidd. Indo Ewropeaidd *sneigu̯h- ‘(bwrw) eira’; ?o ran ff., cf. hefyd Gwydd. Canol nige ‘golchi’ < *nigu̯-; digwydd hefyd fel e. prs. ar ferch, GDG 344, 537, TYP² lxxxii
Mae “Nyf” hefyd yn enw merch.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eira, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.