Saif Eglwys Sant Cadfan (weithiau Eglwys Cadfan Sant neu Eglwys Cadfan) yn Nhywyn, Gwynedd.
O Lydaw y daeth Cadfan, gyda deuddeg o'i dylwyth. Mae rhai rhestrau yn rhoi cymaint a 25 o enwau. Sefydlodd llan, neu cymuned Cristnogol tua 580. Tyfodd i fod yn clas Mae Llain y Clas (College Green) yw enw'r stryd gyferbyn a tu ôl i'r eglwys mae'r Gwalia[u].
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Tywyn |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 7 metr |
Cyfesurynnau | 52.588°N 4.0853°W |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Romanésg |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Cysegrwyd i | Cadfan |
Manylion | |
Noda Brut y Tywysogion i'r eglwys gael ei distrywio gan y Llychlynwyr yn 963, ac yn ystod y 12g canmolwyd yr eglwys mewn awdl gan Llywelyn Fardd (I). Mae rhannau cynharaf yr eglwys yn dyddio i'r 12g, ac yn wreiddiol yr oedd ganddi dŵr canolog, ond dymchwelodd hwnnw yn 1693.
Mae dau feddfaen o'r 14g yn yr eglwys. Perthyn i offeiriad dienw a wna'r naill, tra credir mai bedd Gruffudd ab Adda (m. c. 1350) o Ddôl-goch ac Ynysymaengwyn yw'r llall. Gelwir y beddfaen hwnnw 'Y Marchog sy'n Wylo' ('The Crying Knight') gan fod nam yn y garreg ar y llygaid dde sy'n casglu gwlybaniaeth mewn tywydd gwlyb, gan roi'r argraff o wylo.
Prif drysor yr eglwys hon yw Carreg Cadfan; arni mae'r arysgrif Gymraeg hynaf y gwyddys amdani. Fe'i hysgrifennwyd tua dechrau'r 9g, os nad cynt.
Saif hen ficerdy'r eglwys, a adeiladwyd yn rhan gyntaf y 19g, ar National Street. Tŷ preifat ydyw bellach dan yr enw 'Tŷ Cadfan Sant Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback.'. Enwyd National Street (Duck Street cyn hynny) ar ôl y National School, sef yr ysgol eglwysig a oedd gynt ar y stryd honno.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eglwys Sant Cadfan, Tywyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.