Roedd Edward Herbert (3 Mawrth 1583 – 20 Awst 1648) neu'r Barwn Herbert o Llanffynhonwen yn llenor ac yn athronydd a anwyd yn Swydd Amwythig.
Mae ei waith Life yn dilyn ei deithiau o gwmpas yr Iseldiroedd ac fel llysgennad yn Ffrainc. Yn De Viritate (1623) dadleuodd fod rheswm yn holl bwysig o fewn y ffydd Gristnogol ac ar sail y gwaith hwn y sefydlwyd deistiaeth. Roedd yn frawd i'r bardd George Herbert. Ei ŵyr oedd sylfaenydd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Edward Herbert | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mawrth 1583, 1583 Eyton on Severn |
Bu farw | 20 Awst 1648, 5 Awst 1648, 1648 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, bardd, diplomydd, hanesydd, milwr, gwleidydd, ysgrifennwr |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1601, Aelod o Senedd 1604-1611 |
Tad | Richard Herbert |
Mam | Magdalen Herbert |
Priod | Mary Herbert |
Plant | Richard Herbert, Anhysbys Herbert, Anhysbys Herbert, merch anhysbys Herbert, merch anhysbys Herbert |
Priododd ei gyfnither cyntaf, Mary pan oedd yn 15 oed a hithau'n 21. Fe'i addysgwyd yn Rhydychen lle dysgodd Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg.
Gellir ei alw'n "dad athroniaeth Gymreig"[angen ffynhonnell]; roedd ei dad Richard Herbert o Gastell Trefaldwyn, un o ganghennau Iarllaeth Penfro. Bu hefyd yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd ac yn ynad a siryf Mynwy.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Edward Herbert, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.