Gwyddonydd a dyfeisiwr Cymreig oedd Edward George Bowen CBE (14 Ionawr 1911 – 12 Awst 1991)
Edward George Bowen | |
---|---|
Ganwyd | 14 Ionawr 1911 Y Cocyd |
Bu farw | 12 Awst 1991 Sydney |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ffisegydd |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, CBE, Cymrawd Academi Wyddoniaeth Awstralia |
Ganwyd yn Y Cocyd ger Abertawe, ble'r aeth i'r coleg. Rhwng 1933 ac 1934 bu'n gweithio ar y darganfyddwr cyfeiriad gyda'r 'cathode-ray' yn Slough ble y daeth dan ddylanwad Robert Watson-Watt. Tua diwedd 1935, symudodd y tîm cyfan i Ganolfan Ymchwil yr Awyrlu ('The Air Ministry Research Station') yn 'Bawdsey Manor', Suffolk lle gweithiwyd ar y 'radar' newydd. Bowen fu'n gyfrifol am ddyfeisio radar ar gyfer awyrennau.
Yn 1940 aeth i'r UDA a Chanada i rannu gwybodaeth. Cludodd ei cavity magnetron, sef rhan hanfodol o'r radar-tonnau-centimetr gydag ef. Gweithiodd ymhellach ar ei ddyfais yn Washington a Sydney ble y cododd delesgop radar 210 troedfedd yn Parkes yn Ne Cymru Newydd.
Ymddeolodd ym 1971. Derbyniodd OBE yn 1941, Medal Rhyddid America ym 1947 a CBE yn 1962.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Edward George Bowen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.