Llenor yn yr iaith Gymraeg, a anwyd yn Llandegla-yn-Iâl yn yr hen Sir Ddinbych, yn fab i chwarelwr (31 Mai 1880 – 9 Hydref 1967) oedd Edward Tegla Davies.
Fel Tegla roedd yn cael ei adnabod gan bawb.
Edward Tegla Davies | |
---|---|
Ganwyd | 31 Mai 1880 Llandegla |
Bu farw | 9 Hydref 1967 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, gweinidog yr Efengyl |
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol, sef Llandegla, ger Rhuthun yn 1880, ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a byd natur ei ardal effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i Goleg Didsbury, Manceinion ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro ac yna tair mlynedd fel athro cynorthwyol yn Ysgol Bwlchgwyn, ei hen ysgol, cyn gwasanaethu fel gweinidog Wesla am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd yn arferol i weinidogion Wesla, ac roedd yn bregethwr dylanwadol. Roedd yn sgwennu'n gyson i'r wasg Gymraeg ac yn olygydd ar Y Winllan (1920-1928), cylchgrawn y Wesleaid, a'r Efrydydd (1931-1935). Golygodd Gyfres Pobun am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i T. Gwynn Jones ac Ifor Williams. Fe'i gladdwyd yn Nhregarth, ger Bethesda.
Gwrthododd gynnig i dderbyn OBE, gan ysgrifennu at ffrind, 'Ni allaf ddychmygu fy hun yn "Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig" pan oeddwn wedi ymrwymo fy mywyd i wasanaethu Un a fu farw ar groes'. Ond derbyniodd ddau anrhydedd o Brifysgol Cymru, gradd MA er anrhydedd ym 1924 a DLitt ym 1958, am ei gyfraniad at lenyddiaeth Gymreig.
Ysgrifennai ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys nofelau, sawl cyfrol o straeon byrion, ysgrifau a hunangofiant. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid â phlant a byd natur yn elfen amlwg yn ei waith.
Edward Tegla Davies | |
---|---|
Ar Ddisberod | Y Doctor Bach | Y Foel Faen | Gŵr Pen y Bryn | Gyda'r Blynyddoedd | Gyda'r Glannau | Hen Ffrindiau | Yr Hen Gwpan Cymun | Hunangofiant Tomi | Y Llwybr Arian | Nedw | Rhyfedd o Fyd | Rhys Llwyd Y Lleuad | Stori Sam | Tir Y Dyneddon |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Edward Tegla Davies, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.