Actor a cherddor o Gymro oedd Dyfrig Wyn Evans (23 Awst 1978 – 26 Mai 2022).
Roedd yn adnabyddus am ei berfformiadau mewn cyfresi teledu megis Rownd a Rownd, Talcen Caled a Darren Drws Nesa. Yn y 1990au, fe oedd prif leisydd y band Topper ac roedd nifer yn ei adnabod fel 'Dyfrig Topper'.
Dyfrig Evans | |
---|---|
Ganwyd | 23 Awst 1978 Bangor |
Bu farw | 26 Mai 2022 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor teledu, cerddor, canwr |
Roedd Dyfrig yn wreiddiol o Benygroes ac aeth i Ysgol Dyffryn Nantlle.
Cafodd Dyfrig ei ran gyntaf ar deledu yn 13 mlwydd oed, yn C'mon Midffîld!. Daeth i’r amlwg wedyn fel un o gast gwreiddiol Rownd a Rownd, yn portreadu Arwel Jones neu 'Ari Stiffs' a bu'n actio ar y gyfres am bum mlynedd. Yn 2002 ymunodd â chast Talcen Caled fel Huw Williams. Bû'r cymeriad yn rhan o'r rhaglen tan ddiwedd y gyfres yn 2005.
Roedd hefyd yn rhan o'r gyfres Emyn Roc a Rôl yn chwarae’r cymeriad Eryl, aelod o'r band ac un o'r prif gymeriadau. Ymddangosodd mewn cyfresi teledu arall fel Tipyn o Stâd, Gwlad yr Astra Gwyn ac Y Gwyll.
Rhwng 2017 a 2018 bu'n portreadu Kevin mewn dwy gyfres o Darren Drws Nesa.
Yn 1992 daeth yn aelod o fand y Palgyda'i frawd Iwan Evans. Yn 1995 rhyddhawyd eu cân gynta, sef "Dwi'm yn gwbod. Pam?", ar gasgliad aml-gyfrannog gan label Ankst o'r enw S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol 1. Ymddangoson nhw hefyd ar yr ail record yn y gyfres S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol 2 yn 1996, ond y tro yma dan enw newydd, Topper.
Cynhyrchwyd Arch Noa, EP cyntaf y band, a’r albwm Something to Tell Her gan Mark Roberts o Catatonia. Rhyddhawyd y ddau ar label Ankst yn 1997. Ar gychwyn 1999 rhyddhawyd albwm 'mini' arall, Non Compos Mentis, y tro yma ar eu label eu hunain, Bedlam.
Rhyddhaodd y grŵp eu trydydd albwm Dolur Gwddw yn 2000. Rhyddhawyd y casgliad Y Goreuon O'r Gwaethaf ar label Rasal yn 2005. Yn 2006 cyhoeddoedd Dyfrig albwm o'r enw Idiom fel cerddor unigol.
Yn 2019 daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân LOL.
Roedd Dyfrig yn byw yng Nghaerdydd gyda ei bartner Elaine Jenkins. Roedd ganddo ddau o blant, Caio a Twm gyda’i gyn-wraig Rowena a merch o'r enw Begw gyda ei gyn-bartner Meleri.
Bu'n reolwr ar Gegin Bodlon yng Nghaerdydd am dair mlynedd.
Bu farw ar ôl salwch byr yn 43 mlwydd oed.
Cynhaliwyd ei angladd brynhawn dydd Mawrth, 14 Mehefin 2022, ym Mhenygroes. Daeth rhai cannoedd i wasanaeth cyhoeddus er cof amdano yng Nghapel y Groes dan arweiniad y Parchedig Geraint Roberts. Dangoswyd rhaglen deyrnged i Dyfrig ar S4C, 24 Mehefin 2022.
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Cwmni Cynhyrchu | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
1992 | Midffîld: Y Mwfi | Osborne Picton (ifanc) | Ffilmiau'r Nant | |
1995-2000 | Rownd a Rownd | Arwel Jones | Ffilmiau'r Nant | Cymeriad rheolaidd |
Meibion Glandŵr | ||||
2002-2005 | Talcen Caled | Huw Williams | Ffilmiau'r Nant | Cyfres 3-5 |
2004-2005 | Emyn Roc a Rôl | Eryl | Elidir | 2 Gyfres |
2006 | Llythyrau Ellis Williams | Ellis Williams | ||
2008 | Tipyn o Stâd | Scott | Cwmni Da | Cyfres 7 |
2009 | Blodau | Cwmni Da | ||
Gwlad yr Astra Gwyn | ||||
2014 | Jam Man | Mike | ffilm fer | |
2016 | Y Gwyll | Dafydd Morris | Fiction Factory | Cyfres 3 |
2017-2018 | Darren Drws Nesa | Kevin | Rondo | 2 Gyfres |
2018 | Gwen | Tad | ||
2019 | Cân i Gymru | Canwr / Cyfansoddwr | Avanti | 3ydd |
2019-2020 | Helo Syrjeri | Trosleisio | 2 gyfres | |
2019 | Craith | Glyn Jones | Severn Screen | Cyfres 2 |
2021 | Hewlfa Drysor | Ifas y Tryc | Avanti | |
2021 | Fflam | Matti | Vox Pictures | |
2022 | Stâd | Scott | Cwmni Da | 1 cyfres; dilyniant o Tipyn o Stâd |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dyfrig Evans, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.