Mae dibwyllo (a elwir hefyd yn gasleitio) yn ymadrodd llafar a ddiffinnir yn fras fel twyllo rhwyun er mwyn gwneud iddynt gwestiynu eu cof eu hunain.
Mae'r term Saesneg (gaslighting) yn deillio o deitl y ffilm Americanaidd Gaslight o 1944, er na ddefnyddiwyd y term yn eang yn Saesneg nac yn Gymraeg tan ganol y 2010au.
Math | cam-drin seicolegol, psychological manipulation, narcissistic abuse |
---|
Gellir defnyddio'r term hefyd i ddisgrifio person (sef "dibwyllwr" neu "gasleitiwr") sy'n cyflwyno gwybodaeth ffug i rywun, yn aml fel rhan o ymgyrch, i wneud iddynt "amau eu cof eu hunain o ddigwyddiadau ac i amau eu pwyll". Yn aml, mae hyn er mantais i'r dibwyllwr ei hun, ond nid yw dibwyllo yn fwriadol bob tro.
Gwahanol dechnegau a ddefnyddir gan ddibwyllwyr i gamdrin eu dioddefwyr, fel drysu. Ar wahân i ddrysu, gallant ddefnyddio dulliau eraill gan gynnwys:
Mae'r camdriniwr yn esgus nad yw'n deall y dioddefwr.
Mae'r camdriniwr yn cwestiynu cof y dioddefwr er bod y dioddefwr wedi cofio digwyddiadau yn gywir.
Mae camdriniwr yn newid pwnc y sgwrs a chwestiynu meddyliau'r dioddefwr ac wedyn yn rheoli'r sgwrs.
Mae'r camdriniwr yn rheoli meddyliau'r dioddefwr, ac yn gwneud iddynt gredu nad yw eu meddyliau a/neu eu hanghenion yn bwysig.
Mae camdriniwr yn esgus anghofio yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd; gall y camdriniwr gwrth-ddweud neu oedi pethau fel addewidion sy’n bwysig i’r dioddefwr. Tra bo pawb yn anghofio a gwrth-ddweud weithiau, mae'n bwysig nodi bod dibwyllwyr yn gwneud hynny'n rheolaidd heb gyfyngiadau allanol go iawn. Gall y dibwyllwr greu neu ffugio rhwystrau artiffisial i ganiatáu iddo'i hun wadu neu ohirio'r hyn sy'n bwysig i'r dioddefwr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dibwyllo, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.