Dafydd Wigley: Gwleidydd Cymreig a chyn arweinydd Plaid Cymru

Gwleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru yw Dafydd Wigley (ganed 1 Ebrill 1943), sydd yn uchel ei barch yng Nghymru.

Bu'n cynrychioli etholaeth Caernarfon fel Aelod Seneddol yn San Steffan am 27 mlynedd ac yn y Cynulliad rhwng 1999 a 2003. Roedd yn arweinydd Plaid Cymru rhwng 1981 a 1984 ac eto rhwng 1991 a 2000.

Dafydd Wigley
Dafydd Wigley


Cyfnod yn y swydd
1974 – 2001

Cyfnod yn y swydd
6 Mai 1999 – 3 Mai 2003

Geni 1 Ebrill 1943(1943-04-01)
Derby, Lloegr
Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Priod Elinor Bennett
Alma mater Prifysgol Manceinion

Cefndir

Fe'i ganwyd yn unig blentyn yn Derby, Lloegr, ond dychwelodd y teulu i Gymru yn 1946.

Roedd ei fam yn wreiddiol o Bwllheli. Roedd ei mam hithau'n weithgar gyda'r Rhyddfrydwyr a'i thad yn gyfreithiwr ac yn weithgar gyda'r Toriaid. Roedd tad Wigley'n gweithio ym myd llywodraeth leol. Bu yn drysorydd Cyngor Sir Gaernarfon o 1947 tan 1974.

Cafodd Wigley ei fagu yn bennaf yn y Bontnewydd, Caernarfon. Mynychodd Ysgol Ramadeg Caernarfon ac Ysgol breswyl Rydal Penrhos, Bae Colwyn cyn mynd i Brifysgol Manceinion. Ar ôl graddio yn 1964 ymunodd â Chwmni Moduron Ford yn Dagenham i'w hyfforddi mewn cyllid diwydiannol.

Yn 1967 priododd ag Elinor Bennett Owen. Y flwyddyn honno hefyd yr ymunodd â chwmni Mars; cwmni sy'n enwog am gynhyrchu siocled a melysion. Bu'n reolwr cyllid i Hoover, Merthyr Tudful cyn ei ethol yn aelod seneddol.

Gyrfa wleidyddol

Dafydd Wigley: Gwleidydd Cymreig a chyn arweinydd Plaid Cymru 
Dafydd Wigley

Daeth yn aelod seneddol dros Gaernarfon dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol Chwefror 1974, ac yn aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros yr un etholaeth yn 1999 ond wnaeth e ddim sefyll wedyn yn Etholiad Cyffredinol 2001. Wnaeth e ddim sefyll am etholiad y Cynulliad chwaith yn 2003 oherwydd salwch.

Daeth yn Llywydd Plaid Cymru gyntaf yn 1981, yn dilyn ymddeoliad Gwynfor Evans, ond roedd yn rhaid iddo roi'r gorau i'r llywyddiaeth yn 1984 oherwydd cyflwr iechyd ei blant. Daeth yn ôl i'r Llywyddiaeth wedi ymddeoliad Dafydd Elis-Thomas yn 1991 a bu yn y swydd tan y flwyddyn 2000, pan y bu raid iddo roi'r gorau i'w swydd oherwydd afiechyd, er bod ar y pryd gyhuddiadau o gynllwynio yn ei erbyn.

Yn 1994 safodd dros Blaid Cymru ar gyfer Senedd Ewrop

Bu'n 'bâr' seneddol i John Major.

Mae bellach yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Gaernarfon
19742001
Olynydd:
Hywel Williams
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod Cynulliad dros Gaernarfon
19992003
Olynydd:
Alun Ffred Jones
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Arweinydd yr Wrthblaid yn y Cynulliad
19992000
Olynydd:
Ieuan Wyn Jones
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Gwynfor Evans
Llywydd Plaid Cymru
19811984
Olynydd:
Dafydd Elis-Thomas
Rhagflaenydd:
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd Plaid Cymru
19912000
Olynydd:
Ieuan Wyn Jones

Tags:

1 Ebrill1943Aelod SeneddolCymryGwleidyddPlaid Cymru

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Gwlad PwylSafflwrRoy AcuffFfederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droedLlên RwsiaGoogle ChromeThe Transporter210auBrìghdeCyfunrywioldebAlotropTsiecoslofaciaLee TamahoriAlphonse DaudetGweriniaeth Pobl TsieinaIseldiregYmestyniad y goesMalavita – The FamilyY TalibanLloegrRhestr o arfbeisiau hanesyddol CymruRhywogaethAurCastlejordan, Sir Meath, Gweriniaeth IwerddonSgifflHentai KamenBarry JohnMarie AntoinettePaffioCalifforniaMozilla FirefoxReal Life CamArlene DahlSenedd LibanusWcráinPriodas gyfunryw yn NorwySnow White and the Seven Dwarfs (ffilm 1937)LerpwlCodiad1696The Wicked DarlingEn attendant les hirondellesDiwydiantSupermanWicipediaCœur fidèleTwo For The MoneySodiwmTeisen siocled800Justin TrudeauBasbousaThe Jeremy Kyle Show1915BukkakeBrexitAlexis de TocquevillePunt sterlingGwthfwrddNiwmoniaPleistosenCymraegRiley ReidHTMLY Deyrnas UnedigY Rhyfel Byd CyntafClaudio MonteverdiAnimeiddioA-senee-ki-wakwErotikSex and The Single GirlEnrico CarusoMwstard1682Hafan🡆 More