Cyfundrefn ryngwladol yw Sefydliad Masnach y Byd (Ffrangeg: Organisation mondiale du commerce, OMC; Saesneg: World Trade Organization, WTO; Sbaeneg: Organización Mundial del Comercio, OMC) sy'n ymwneud â'r rheolau sy'n rheoli masnach ryngwladol rhwng gwledydd.
Craidd y gyfundrefn yw Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd a gychwynwyd yn 1 Ionawr 1995 ac a arwyddwyd yn Ebrill 2004 ym Marrakech, Moroco, gan y rhan fwyaf o bwerau economaidd mawr y byd ac a gydnabuwyd ar ôl hynny gan eu seneddau. Bwriad swyddogol y sefydliad yw cynorthwyo cynhyrchwyr nwyddau a gwasanaethau, allforwyr a mewnforwyr, i weithredu a hynny trwy gyfyngu rhwystrau i fasnach. Yn 2017 roedd gan y gyfundrefn 164 aelod-wladwriaeth. Nid yw Iran a rhan helaeth y byd Arabaidd yn aelodau. Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg yw ei hieithoedd swyddogol.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhyngwladol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1 Ionawr 1995 |
Yn cynnwys | WTO panel, WTO General Council, WTO iLibrary |
Lleoliad yr archif | WTO archives |
Pennaeth y sefydliad | Rheolwr Gyfarwyddwr Sefydliad Masnach y Byd |
Gweithwyr | 640 |
Isgwmni/au | WTO General Council |
Ffurf gyfreithiol | subject of international law |
Pencadlys | CAnolfan William Rappard |
Enw brodorol | World Trade Organization |
Gwladwriaeth | Y Swistir |
Gwefan | https://www.wto.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ers 2001, mae Sefydliad Masnach y Byd yn dilyn cyfarwyddiadau Cylch Doha, a gytunwyd yn Doha, prifddinas Qatar, sef 'Popeth Ond Arfau'. Er nad yw'n un o asiantaethau arbennig y Cenhedloedd Unedig, mae ganddo gysylltiadau â'r gyfundrefn honno. Lleolir ei bencadlys yn ninas Genefa, Y Swistir. Yn 2013, daeth y diplomydd Brasilaidd Roberto Azevêdo yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd, gan olynu'r Ffrancwr Pascal Lamy.
Ers diwedd y 1990au, mae Sefydliad Masnach y Byd dan feirniadaeth lem mudiadau gwleidyddol amgen sy'n gwrthwynebu yr hyn a alwent yn "hybu globaleiddio'r economi ryngwladol" a "rhoi rhwydd hynt" i fasnachwyr y gwledydd cyfoethog ar draul gweithwyr mewn gwledydd llai datblygedig a'r tlodion yn gyffredinol. Mewn canlyniad mae cynadleddau'r sefydliad wedi bod yn ffocws i wrthdystio ar raddfa eang.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sefydliad Masnach y Byd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.