Rheolau swyddogol yw cyfraith, neu y gyfraith, sydd i'w darganfod mewn cyfansoddiadau a deddfwriaethau, a ddefnyddir i lywodraethu cymdeithas ac i reoli ymddygiadau ei haelodau.
Yng nghymdeithasau modern, bu corff awdurdodedig megis senedd neu lys yn gwneud y gyfraith. Caiff ei chefnogi gan awdurdod y wladwriaeth, sydd yn gorfodi'r gyfraith trwy gyfrwng cosbau addas (gyda chymorth sefydliadau fel yr heddlu).
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Y Llysoedd Barn Brenhinol sy'n delio gyda'r gyfraith droseddol a sifil.
Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yw goruchaf lys y DU gyfan (ers 2009) ar gyfer apeliadau cyfraith sifil. Mae ei awdurdod yn gyfyngedig i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Llys Cyfiawnder Ewrop yw llys rhynglywodraethol yr Undeb Ewropeaidd (UE) â'i bencadlys yn Lwcsembwrg.
Cyfraith Gyfoes Cymru yw'r term swyddogol am y drefn gyfreithiol ers 1 Ebrill 2007 sy'n caniatau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru greu deddfau yng Nghymru.
Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Pasiwyd mesur i ddatgysylltu'r eglwys yn San Steffan yn 1914 ond ni ddaeth i rym tan 1920 oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Llys y Sesiwn Fawr oedd y Llys Droseddol dros Gymru rhwng pasio ail Ddeddf Uno 1542 a diddymiad y llys yn 1830.
Roedd Deddfau Uno 1536 a 1543 yn ddwy ddeddf i uno Cymru'n wleidyddol â Lloegr ac i ddisodli'r iaith Gymraeg o unrhyw rôl swyddogol.
Casgliad o hen gyfreithiau yw Cyfraith Hywel a sefydlwyd yn y 10g. Daeth cyfreithwyr ynghyd yn Hendy-gwyn ar Dâf tua 945 i gysoni, diwygio, dileu a chyhoeddi y cyfreithiau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cyfraith, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.