Cramenogion dectroed yn yr is-urdd Brachyura yw crancod, crangod neu crainc.
Cranc Amrediad amseryddol: Jwrasig–Diweddar | |
---|---|
Cranc nofiol llwyd Liocarcinus vernalis | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Adrannau ac isadrannau | |
|
Ceir crancod y môr, crancod dŵr croyw, a chrancod tir. Fel rheol mae ganddynt allsgerbwd trwchus a phâr o grafangau neu fodiau.
Mae ambell anifail yn dwyn yr enw cranc, er nad ydynt yn wir grancod, gan gynnwys marchgranc (teulu Lithodidae), cranc meddal, crancod meudwyol, cranc y cregyn neu granc ymfudol (uwchdeulu Paguroidea), cranc porslen (teulu Porcellanidae), a'r pryfed cranclau (Pthirus pubis).
Cydnabyddir 6,793 o rywogaethau, o fewn 93 o deuluoedd, yn yr is-urdd Brachyura. Maent yn cyfri am ryw hanner o'r holl Decapoda.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cranc, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.