Iaith yn perthyn i deulu yr Ieithoedd Romáwns a siardeir ar ynys Corsica a gogledd ynys Sardinia yw Corseg (Corsu neu Lingua Corsa).
Am gyfnod hir, Corseg oedd unig iaith ynys Corsica, cyn iddi ddod yn rhan o Ffrainc yn 1768. Yn 1990, toedd tua 50% o drigolion yr ynys, tua 127,000, yn medru rhywfaint o'r iaith, a tua 10% yn ei defnyddio fel iaith gyntaf. Mae hyn yn cynharu a thua 70% oedd yn medru rhywfaint o'r iaith yn 1980.
Dysgir rhywfaint o'r iaith yn yr ysgolion bellach; mae'n bwnc dewisol yn yr ysgolion uwchradd.
Mae gan y Gorseg statws iaith ranbarthol yn Ffrainc, mewn rhestr a gyhoeddwyd gan lywodraeth Ffrainc. Mae'r iaith yn ymddangos ar arwyddion ffyrdd yng Nghorsica. Er hynny, nid yw'n iaith swyddogol yn Ffrainc, gan mai'r Ffrangeg yn unig sydd â'r statws hwnnw (ers 1992). Ar 17 Mai 2013, pleidleisiodd Cynulliad Corsica o blaid cynnig oedd yn gwneud y Gorseg yn iaith cyd-swyddogol, gyda'r Ffrangeg . Fodd bynnag, ystyrir y cynnig yn un anghyfansoddiadol.
Wicipedia yn yr iaith co, y gwyddoniadur rhydd, agored ac am ddim! |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Corseg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.