UTC (Amser yn ôl y Cyd-drefniant Byd-eang) yw'r talfyriad am y raddfa amser cydlyniedig byd-eang sydd wedi cael ei derbyn fel sylfaen amser gan y mwyafrif helaeth o wledydd y byd.
Enghraifft o'r canlynol | safon amser, cylchfa amser |
---|---|
Yn cynnwys | eiliad naid |
Rhagflaenydd | universal time |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er bod "UTC" yn ymddangos fel acronym, nid yw'n acronym dilys. Ym 1970 dyfeisiwyd y system Amser Cyffredinol Cydlynol gan grŵp cynghori rhyngwladol o arbenigwyr technegol o fewn yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol (UTRh; Saesneg: International Telecommunication Union, ITU). Penderfynodd yr UTRh y byddai'n dynodi un byrfodd i'w ddefnyddio ym mhob iaith er mwyn osgoi peri dryswch. Ond ar ben hynny, roedden nhw'n dymuno osgoi ffafrio unrhyw iaith benodol. Felly, yn hytrach na defnyddio "CUT", sef y llythrenw ar gyfer "Coordinated Universal Time" yn Saesneg, neu "TUC", sef y llythrenw ar gyfer "Temps Universel Coordonné" yn Ffrangeg, dewiswyd y ffurf "UTC", sy'n ddatrisiad cyfaddawdol nad yw'n cyfateb i eiriau mewn unrhyw iaith.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article UTC, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.