Athronydd o Tsieina a sylfaenydd Conffiwsiaeth oedd Confucius (孔夫子, Kǒng Fūzǐ, 551 CC - 479 CC).
Cafodd ei ddysgeidiaeth ddylanwad mawr yn Tsieina, Corea, Japan a Fietnam.
Conffiwsiws | |
---|---|
Ganwyd | 孔丘 c. 551 CC Qufu |
Bu farw | Afon Si |
Dinasyddiaeth | Lu |
Galwedigaeth | athronydd, athro, ysgrifennwr |
Adnabyddus am | Analects |
Cartre'r teulu | Qufu |
Mudiad | Conffiwsiaeth |
Tad | Shu-liang He |
Mam | Yan Zhengzai |
Priod | Qiguan Shi |
Plant | Kong Li |
Yn ôl traddodiad, ganed ef yn ninas Qufu, yn Nheyrnas Lu, yn awr yn rhan o Dalaith Shandong. Dywedir iddo ddod yn Weinidog dros Gyfiawnder yn nheyrnas Lu. Wedi iddo gael ei orfodi i ymddiswyddo, bu'n teithio o gwmpas teyrnasoedd bychain gogledd-ddwyrain a chanolbarth Tsieina, yn egluro ei syniadau ynghylch llywodraethu.
Pwysleisia ei athroniaeth foesoldeb, perthynas gymdeithasol gywir, cyfiawnder a gonestrwydd, mewn bywyd personol ac mewn llywodraeth. Yn ystod cyfnod Brenhinllin Han yn Tsieina, daeth ei ddysgeidiaeth yn athroniaeth swyddogol y wladwriaeth. Cyflwynwyd ei ddysgeidiaeth i Ewrop gan y Iesuwr Matteo Ricci, y cyntaf i Ladineiddio ei enw fel "Confucius."
Ceir ei ddysgeidiaeth yn yr Analectau (論語), casgliad o ddarnau byrion a cagglwyd at ei gilydd flynyddoedd ar ôl ei farwolaeth. Yn ôl traddodiad, ef oedd awdur y Pum Clasur, ond nid yw haneswyr modern yn credu fod unrhyw ddogfen a ysgrifennweyd ganddo ef ei hun wedi goroesi.
Enwir Sefydliad Confucius er hyrwyddo iaith, diwylliant a gwerthodd Tsieina wedi'r meddyliwr. Sefydlwyd yr institiwt yn 2004 ac mae ganddi ganolafannau ar draws y byd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Conffiwsiws, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.