Cyhoeddwyr yn Abertawe oedd Gwasg Christopher Davies.
Enwyd y wasg ar ôl Christopher Humphrey Talfan Davies, cyfreithiwr o Abertawe, a mab Alun Talfan Davies a gyd-sefydlodd y wasg.
Enghraifft o'r canlynol | cyhoeddwr |
---|---|
Daeth i ben | 21 Chwefror 2017 |
Rhan o | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
Dechrau/Sefydlu | 24 Rhagfyr 1949 |
Rhagflaenwyd gan | Llyfrau'r Dryw |
Sylfaenydd | Christopher Humphrey Talfan Davies |
Rhagflaenydd | Llyfrau'r Dryw |
Pencadlys | Abertawe |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhagflaenwyd Christopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf gan Lyfrau'r Dryw, sef tŷ cyhoeddi Cymraeg a fu'n rhan ganolog o'r byd cyhoeddi o'r 1940au hyd y 1970au. Sefydlwyd Llyfrau'r Dryw yn Llandybie yn 1940 gan y llenor Aneirin Talfan Davies a'i frawd Alun Talfan Davies. Lleihaodd cynnyrch y wasg yn y 1970au a daeth yn rhan o Gwmni Christopher Davies (Abertawe), mab Alun Talfan Davies, sef ochr gyhoeddi Saesneg y wasg, yn wreiddiol.
Yn ôl Tŷ'r Cwmniau, daeth Christopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf (rhif 00476492) i ben ar 21 Chwefror 2017. Cyfeiriad ola'r cwmni oedd Druslyn House, De La Beche Street, Swansea, SA1 3HJ ac enwyd 1 cyfarwyddwr: Emyr Wyn Nicholas, a benodwyd 1 Rhagfyr 2010 a 4 cyngyfarwyddwr a ymddiswyddodd ar 1 Rhagfyr 2010, sef: Kathryn Elizabeth Talfan Colayera, Christopher Humphrey Talfan Davies a Dilys Morwenna Davies.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwasg Christopher Davies, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.