Cenedlaetholdeb Catalanaidd

Cenedlaetholdeb Catalanaidd, a elwir hefyd yn Catalanisme, yw'r symudiad gwleidyddol sy'n ystyried bod Catalwnia yn genedl sydd â hawl i annibyniaeth neu hunanlywodraeth.

Coleddir yr ideoleg yma gan bleidiau adain-chwith, canol ac adain-dde.

Cenedlaetholdeb Catalanaidd
Gorymdaith yn ninas Barcelona, 18 Chwefror 2006.

Nid yw pob plaid genedlaethol yn hawlio annibyniaeth lwyr ar Sbaen; mae'r blaid Convergència Democràtica de Catalunya yn dadlau fod Catalwnia yn genedl sydd â'r hawl i benderfynu ei dyfodol ei hun, ond o blaid Sbaen ffederal yn hytrach nag annibyniaeth. Ar y llaw arall, mae'r Esquerra Republicana de Catalunya yn galw am annibyniaeth.

Cenedlaetholdeb Catalanaidd
Pep Guardiola, Rheolwr CPD Manchester City yn gwisgo rhuban melyn yn symbol o Annibyniaeth catalwnia a'r gwleidyddion a garcharwyd gan Sbaen; 2018.

Ym marn y mwyafrif o'r pleidiau sy'n ceisio annibyniaeth, mae "Catalwnia" yn cynnwys nid yn unig Cymuned Ymreolaethol Catalwnia ond y tiriogaethau eraill lle siaredir Catalaneg, a elwir y Països Catalans ("gwledydd Catalanaidd), yn cynnwys y rhan fwyaf o'r Comunidad Valenciana, yr Ynysoedd Balearig, rhan o Aragón a Rosellón yn Ffrainc, a elwir yn Ogledd Catalwnia.

Hanes

Yn ystod than gyntaf yr 20g, y prif fudiad cenedlaethol oedd y Lliga Regionalista. Sefydlwyd y Mancomunitat de Catalunya, oedd yn cynnwys y pedair talaith Gatalanaidd, gyda rhywfaint o bwerau gweinyddol. Daeth hwn i ben dan unbennaeth Miguel Primo de Rivera. Yn 1931, enillodd yr Esquerra Republicana de Catalunya yr etholiaad yng Nghatalwnia, a sefydlwyd llywodraeth Gatalanaidd gyda mesur o hunanlywodraeth dan yr enw Generalitat de Catalunya.

Parhaodd hyn tan fuddugoliaeth lluoedd Francisco Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen. Tua diwedd y rhyfel, roedd arlywydd y Generalitat, Lluís Companys, wedi cyhoeddi annibyniaeth Catalwnia. Ar ddiwedd y rhyfel, bu raid i Companys ffoi i Ffrainc. Wedi i Ffrainc gael ei meddiannu gan yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, trosglwyddwyd Companys i lywodraeth Franco, a dienyddiwyd ef.

Bu farw Franco yn 1975, a dychwelodd olynydd Companys, Josep Tarradellas, i Sbaen yn 1977. Ail-sefydlwyd y Generalitat, ac yn 1980 daeth Jordi Pujol o'r Convergència Democràtica de Catalunya yn arlywydd. Yn 2006, cynhaliwyd refferendwm ar newid Ystatud Hunanlywodraeth Catalwnia 1979 i roi mwy o bwerau i'r Generalitat, a chytunwyd i hyn gan 73.24% o'r rhai a bleidleisiodd, er mai dim ond 48.84% o'r etholwyr a bleidleisiodd.

Pleidiau a mudiadau

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Cenedlaetholdeb Catalanaidd HanesCenedlaetholdeb Catalanaidd Pleidiau a mudiadauCenedlaetholdeb Catalanaidd Gweler hefydCenedlaetholdeb Catalanaidd CyfeiriadauCenedlaetholdeb CatalanaiddCatalwnia

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Ieithoedd Indo-EwropeaiddMaes Awyr PerthFfederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droedRosettaSyniadOdlEgalitariaethSisiliLleuadLouise BryantGwyddoniaeth gymhwysolCaeredinMaelströmKatwoman XxxIddewiaethFlight of the ConchordsEagle EyeIs-etholiad Caerfyrddin, 1966Zoë SaldañaWiciLleuwen Steffan19332007NiwmoniaPussy RiotSupermanProtonBlue StateJavier BardemEtholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016Alldafliad1915Hob y Deri Dando (rhaglen)MuhammadCalifforniaDarlithyddRhyfelPortiwgalegCyfrifiadur personolWikipediaEfrog NewyddCanadaGenreThe SaturdaysHelmut LottiThe Wicked DarlingAwstralia1926MetadataLos AngelesWiliam III & II, brenin Lloegr a'r AlbanAmgueddfa Genedlaethol AwstraliaInstagramFloridaHarriet BackerLumberton Township, New Jersey1897CREBBPFrankenstein, or The Modern PrometheusPOW/MIA Americanaidd yn FietnamPafiliwn PontrhydfendigaidRussell HowardGemau Olympaidd yr Haf 1920Sidan (band)Rhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonJohann Sebastian BachBaner yr Unol DaleithiauCorwyntDesertmartinIestyn GeorgeWiciadur🡆 More