Gweinidog, bardd ac ymgyrchydd o Dalgarreg oedd Cen Llwyd (29 Mawrth 1952 - 12 Mehefin 2022).
Cen Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | 29 Mawrth 1952 |
Bu farw | 12 Mehefin 2022 |
Man preswyl | Talgarreg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, ymgyrchydd, bardd |
Roedd yn briod ag Enfys Llwyd, ac mae ganddynt ddau o blant, Heledd a Gwenllian. Bu'n dioddef o glefyd Parkinson's ac o effeithiau strôc. Cyn mynd i'r weinidogaeth, bu Cen Llwyd yn gweithio mewn ffatri wlân.
Roedd yn gweithio fel gweinidog gyda'r Undodiaid ar gapeli Cribyn, Ciliau Aeron, Rhydygwin, Capel y Groes, Caeronnen Cellan ac Alltyblaca. Bu'n cyflwyno Munud i Feddwl ar Radio Cymru, ac fe gyhoeddodd gyfrol o'i gyfraniadau yn 2018.
Bu'n weithgar fel ymgyrchydd gyda Chymdeithas yr Iaith ac CND Cymru. Roedd yn aelod gweithgar o CND ac yn heddychwr a bu'n rhan o'r ymgyrch yn erbyn lleoli taflegrau niwclear yng Nghomin Greenham yn yr 1980au. Fel rhan o'r ymgyrch dros sefydlu S4C, fe ddringodd fast Moel y Parc gydag Emyr Hywel a bu'n rhan o griw wnaeth feddiannu mast Nebo. Ar Ionawr 27, 1979, carcharwyd Cen Llwyd ynghyd â'i wraig Enfys Llwyd a Twm Elias am iddynt wrthod dalu ffi'r drwydded. Ym 1986, fe berswadiodd yr archesgob Desmond Tutu, oedd yn ymweld ấ Chymru ar y pryd, i lofnodi deiseb dros Ddeddf Iaith newydd.
Cafodd ei ethol i Gyngor Sir Ceredigion i gynrychioli Llandysiliogogo ar ran Plaid Cymru ym 1999 ac eto yn 2004.
Cyhoeddodd y gyfrol o gerddi Diwrnod Bant ym 1982 fel rhan o Gyfres y Beirdd Answyddogol. Yn ddiweddarach, daeth yn fuddugol ar gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Felinfach yn 2012, enillodd gadair Eisteddfod Abergorlech yn 2013 ac eto yn 2016, Cadair Eisteddfod Cenarth yn 2015, a Chadair Eisteddfod Pumsaint yn 2017.
Cyfansoddwyd englynion i Cen Llwyd gan Siôn Aled Owen, Annes Glynn a Dylan Iorwerth yn dilyn marwolaeth Cen.
Cen
Cafwyd englyn gan Annes Glynn
Cen Llwyd
Cyhoeddwyd englyn gan Dylan Iorwerth yng nghylchgrawn Cymdeithas yr Iaith
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cen Llwyd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.