Cawl Cymreig

Saig draddodiadol o Gymru sy'n cynnwys cig a llysiau tymhorol yw cawl Cymreig.

Erbyn heddiw mae gan y gair cawl ystyr ehangach, ond yn hanesyddol roedd yn dynodi pryd arbennig.

Cawl Cymreig
Cawl Cymreig
Mathbroth, pryd o gig oen Edit this on Wikidata
Rhan oCoginiaeth Cymru Edit this on Wikidata
Yn cynnwysCig oen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cawl Cymreig
Cawl traddodiadol Cymreig

Cynhwysion sylfaenol y cawl traddodiadol yw cig moch, bresych, tatws, a chennin. Defnyddid cig eidion neu oen yn aml yn lle'r bacwn neu'n ychwanegol iddo, a hefyd moron, pannas, rwden, ffa llydain, a sewyrllys. Câi'r darnau o gig, llysiau a pherlysiau eu cyd-ferwi mewn dŵr yn yr un llestr, ac yna câi'r trwyth ei dewhau gyda blawd ceirch neu flawd plaen. Gall y cawl hefyd gynnwys twmplenni blawd ceirch a throlennau, sef twmplenni neu bwdinau bychain llawn cyrens. Weithiau ychwanegir saws perllys a wneir gyda'r dŵr a ddefnyddiwyd i goginio'r tatws, ac nid gyda llaeth.

Cofnodwyd y gair "cawl" yn gyntaf yn y 13g, yn yr ystyr o fresych neu lysiau coginio. Daw o'r gair Lladin caulis, sy'n golygu coesyn planhigyn neu fresych. Ers tua'r flwyddyn 1400 defnyddir yn ei ystyr o saig sy'n cynnwys bresych, a chynhwysion eraill. Gweinid y potes yn gyntaf ac yna'r cig a llysiau yn hanesyddol, ond erbyn heddiw un cwrs yw'r cawl Cymreig. Fe'i paratoid yn gyffredin gynt ar gyfer cinio ganol dydd yn ardaloedd amaethyddol Cymru, ac ar gyfer cinio nos y glöwr yng nghymoedd diwydiannol y de. Arferid bod yn gyffredin iawn yn ystod y gaeaf yn y de orllewin. Pryd debyg a geir yn y gogledd yw lobsgows.

Cyfeiriadau

Ryseitiau

Tags:

CawlCigCymruLlysiau

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Llyfrgell Gwladwriaeth RwsiaKindergarten CopEagle EyeAsiantaeth newyddionVan JohnsonC.P.D. WrecsamThe Mind of Mr. SoamesCyfathrach rywiolGweriniaeth DominicaShinzō Abe14 EbrillSocratesSuperstauCarry On CowboyGorsedd y BeirddAthroniaethGwrychredynen-y-celyn y tŷCip-fflachThe SimpsonsMurray County, GeorgiaCystadleuaeth y MeistriLlanbebligBertrand RussellCalsugnoSheriff of Sage ValleyClearing The RangeNational SecurityFideo ar alwGwilym Roberts (Caerdydd)BDSMThe Pianist (ffilm)Henry David ThoreauJennifer Jones (cyflwynydd)Cynan MeiriadogCreampieCazar Un Gato NegroHyrcaniaEmily TuckerAfghanistanSaesnegCastell PowysThe BenchwarmersChristina BoothDerec Llwyd MorganMamalNairobiIsraeliaidGwlyddyn y domTsieciaPlymouthMaremmaCemegPortable Document FormatEwropAthenaPedr I, tsar RwsiaWilliam PriceRomance On The RangeThe Rawhide TerrorCapreseEmyr WynRubbeldiekatzI Pagliacci2024Jimmy WalesISO 3166-1TorontoPaul von Hindenburg🡆 More