Castell mwnt a beili yn yr Wyddgrug, sir y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Castell yr Wyddgrug (Saesneg: Mold Castle); cyfeiriad grid SJ235643.
Math | adfeilion castell, castell mwnt a beili |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Yr Wyddgrug |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.171018°N 3.145285°W |
Cod OS | SJ2351964333 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | FL014 |
Saif ar Fryn y Beili ger canol y dref, yn agos at eglwys blwyf o'r 15g, Eglwys y Santes Fair . Adeiladwyd y castell tua 1072 yn ôl pob tebyg gan Robert de Montalt. Does fawr ar ôl o'r castell, heblaw y twmpath yr adeiladwyd y mwnt arno.
Adnabyddir safle'r castell fel Bryn y Beili, sy'n ardd gyhoeddus bellach yng nghanol yr Wyddgrug.
Codwyd caer mwnt a beili tua 1072 ar gloddwaith a oedd yn bodoli eisoes, o bosibl gan Robert de Montalt, disgynnydd o Eustace De Monte Alto, rhyfelwr Normanaidd yng ngwasanaeth Hugh Lupus, Iarll Caer. Roedd y teulu yn wreiddiol o Monthault, Ille-et-Vilaine, yn Nugiaeth Llydaw (pryd hynny doedd y ddugiaeth ddim yn rhan o Ffrainc.) Mae'n bosib bod y teulu yn cymryd eu henw o 'mont haut', sy'n golygu 'bryn uchel'. Efallai bod yr enw 'mont haut' yn newid dros y blynyddoedd, nes iddo ddod yn 'Mold'. Felly mae'n bosib bod Bryn y Beili wedi rhoi ei henw i'r dref.
Ym 1146 cipiwyd y castell gan Owain Gwynedd. Ym 1245, cafodd ei ail-gipio gan y Tywysog Dafydd ap Llywelyn. Cynhelid llys ar gylch ei frawd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, yn y Wyddgrug ar 22 Gorffennaf, 1273. Er nad oes prawf, mae'n bosibl mai yng nghastell Bryn y Beili y bu hynny.
Roedd y castell o dan reolaeth y Cymry am amser hir yn ystod teyrnasiad Llywelyn ab Iorwerth a parhaodd yn strwythur amddiffynnol hyd at y 13eg ganrif. Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, cipiwyd yr Wyddgrug gan y Seneddwyr, adenillwyd gan y Brenhinwyr a syrthiodd eto i luoedd Cromwell.
Daeth y safle i feddiant teulu Mostyn ac yn 1790 fe wnaethon nhw ei amgylchynu â wal gerrig, plannu coed a'i drawsnewid yn ardd. Yn 1890 cafodd y safle ei werthu i Gyngor yr Wyddgrug. Roedd safle'r castell yn ymgorffori gardd goffa i anrhydeddu milwyr yr Wyddgrug a syrthiodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Adferwyd y parc dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys adeiladu rampiau, creu gofod perfformio yn y beili mewnol, ac adeiladu canolfan ddehongli; mae'r safle i fod i ailagor ym mis Ebrill 2022. Yn ystod y gwaith, yn 2020 datgelodd cloddiadau gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys weddillion wal gerrig fawr ar ymyl y beili mewnol, a allai fod wedi bod yn rhan o’r amddiffynfeydd neu adeilad mewnol . Mae'r cloddiadau'n awgrymu efallai mai pren oedd y castell gwreiddiol.
Cofrestrwyd Castell yr Wyddgrug yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru gyda'r rhif NPRN 307119.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Castell yr Wyddgrug, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.