Lleolir Castell Pen-rhys ym Mhen-rhys ar Benrhyn Gŵyr.
Priodolir y castell canoloesol i Robert de Penrice, a fu farw ym 1283. Roedd y castell ym meddiant y teulu Mansel erbyn y 15g. Yn hwyr yn yr oesoedd canol symudodd y teulu i Gastell Oxwich gan roi'r gorau i Ben-rhys, ac aeth yr adeilad yn sarn. Yn nyddiau hwyr preswyliaeth y teulu adeiladwyd colomendy, sydd bellach yn adeilad rhestredig Gradd II*. Difrodwyd y castell yn bellach gan Oliver Cromwell yn y Rhyfel Cartref, ac efallai eto yn y 18g er mwyn creu effaith pictiwrésg.
Math | castell, adfeilion castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Pen-rhys |
Sir | Sir Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 60.2 metr |
Cyfesurynnau | 51.5752°N 4.17078°W |
Perchnogaeth | teulu Mansel |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM047 |
Adeiladwyd plasty Sioraidd islaw yr adfeilion canolesol ar gyfer Thomas Mansel Talbot ym 1773–7; Anthony Keck oedd y pensaer. Prynwyd dau o'r mentyll tân gan Talbot yn ystod ei deithiau yn yr Eidal. Cynlluniwyd y parc gan William Emes ym 1776.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Castell Pen-rhys, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.