Castell ffug ac ystâd ym Mwrdeisdref Sirol Conwy, ger Abergele yw Castell Gwrych ( ynganiad ), sydd wedi'i gofrestru fel adeilad cofrestredig Gradd I.
Math | ffoledd, plasty gwledig, castell, sefydliad elusennol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gwrych Castle Estate, Gwyndu Ucha Estate |
Lleoliad | Llanddulas a Rhyd-y-foel |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 61.5 metr |
Cyfesurynnau | 53.28354°N 3.609589°W |
Perchnogaeth | Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh, Urdd Sant Ioan, Douglas Cochrane, 12th Earl of Dundonald |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Manylion | |
Fe'i codwyd gan Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh (1788-1861) i gofio am deulu'r 'Llwydiaid' ar ochr ei fam. Er mwyn ei godi dymchwelwyd plasdy o'r enw 'Y Fron’ a oedd ers 1810 wedi mynd a'i ben iddo. Erbyn i Lloyd briodi'r Arglwyddes Emily Esther Ann Lygon (sef merch Beauchamp) yn 1825 roedd y tŷ newydd wedi ei godi a'i orffen. Unodd nifer o gynllunwyr a phensaeri yn y gwaith o'i gynllunio, gan gynnwys Charles Augustus Busby a Thomas Rickman ac yn 1840s cododd Henry Kennedy adain newydd. Pan fu farw Lloyd, daeth Robert Bamford-Hesketh a'i wraig Ellen Jones-Bateman yn berchnogion.
Ar ei farwolaeth, etifedd Castell Gwrych a'r ystâd oedd mab Lloyd, sef Robert Bamford-Hesketh (1826-1894) a briododd Ellen Jones-Bateman yn 1851. Ychwanegodd at y tiroedd ac erbyn 1873 roedd gan yr ystad 3424 o erwau ynghyd â nifer o byllau glo yng ngogledd Cymru.
Un ferch oedd gan Robert, sef Winifred Bamford-Hesketh (g. 1859), a phriododd Douglas Mackinnon Baillie Hamilton, 12fed Iarll Dundonald yn 1878.
Roedd y Stad yn darparu cyfleuon a gwasanaeth (swyddogol neu answyddogol) i aelodau dosbarth canol ac uwch y fro. Mae llawer o son am gipar Stad y Gwrych yn nyddiadur John (neu Lorrimer - nid yw'n amlwg) Thomas gan i'r dyddiadurwr o naturiaethwr ddibynnu'n helaeth ar ei sgiliau a'i wybodaeth (a gwn!). Ni chawsom wybod beth oedd enw "the keeper" chwaith (dosbarth îs siwr o fod). Dyma enghraifft o'r dyddiadur yn cofnodi, gyda chymorth y cipar, adar sydd, rhai ohonynt, wedi hen ddiflannu:
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe'i defnyddiwyd gan y Llywodraeth i lochesu 200 o aelodau Mudiad Seion yr Iddewon (Bnei Akiva). Wedi'r rhyfel, torrwyd y cysylltiad gyda theulu Dundonald ac am ugain mlynedd roedd yn agored i'r cyhoedd. Ar yr adeg yma, fe'i galwyd yn "The Showpiece of Wales" a thyrrai ymwelwyr yno i'w weld. Fe'i defnyddiwyd hefyd fel man hyfforddi y bocsiwr Randolph Turpin yn y 1950au cynnar. Yn y 1960au cynnar, fe'i defnyddiwyd yn achlysurol gan fotobeicwyr 'Dragon Rally'.
Ceuwyd ei ddrysau i'r cyhoedd yn 1985, a chychwynodd cyfnod o ddirywiad i adeiladwaith y castell. Fe'i prynwyd yn 1989 gan Nick Tavaglione, dyn busnes Americanaidd, am £750,000. Ond ni chychwynwyd adfer yr adeilad ac o ganlyniad anrhaethwyd y lle gan fandaliaid a'r tywydd.
Fe'i defnyddiwyd yn 1996 fel cefndir i'r ffilm Prince Valiant, a oedd yn serennu Edward Fox, Joanna Lumley a Katherine Heigl. Dechreuodd bachgen ifanc 12 oed ymgyrchu dros gadwraeth y castell, sef Mark Baker. Ffurfiodd ymddiriedolaeth i warchod ac adfer y castell, a gorfodwyd Bwrdeisdref Sirol Conwy i roi 'gorchymyn pryniant gorfodol' ar y lle. Gorfodwyd y perchennog Americanaidd i'w werthu ym Mawrth 2006 a phrynwyd y castell gan 'City Services Ltd' yn Ionawr 2007 am £850,000 a gwariwyd hanner miliwn ar y gwaith o'i adfer, ond o fewn dim, aeth yr hwch drwy'r siop.
Yn Nhachwedd 2020, defnyddiwyd y castell fel lleoliad i'r gyfres Prydeinig I'm a Celebrity...Get Me Out of Here! am nad oedd y gyfres yn gallu defnyddio eu lleoliad arferol yn Awstralia oherwydd Pandemig COVID-19. Roedd yr enwogion yn byw yn y castell ac fe addaswyd nifer o nodweddion y gyfres ar gyfer y lleoliad.
Roedd hyn yn cynnwys defnyddio arwyddion Cymraeg o fewn y castell a'r cyflwynwyr Ant a Dec yn defnyddio ambell air o Gymraeg wrth gyflwyno. Perchennog y siop yn y gyfres oedd 'Cledwyn' yn cymryd lle 'Kiosk Kev' o Awstralia.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Castell Gwrych, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.