Lle ar gyfer y celfyddydau perfformiadol yw Canolfan Mileniwm Cymru a leolir yng Nghaerdydd.
Gobeithir y bydd doniau opera, bale, sioeau cerdd a dawns gorau'r byd yn perfformio yno. Costiodd £104 miliwn i'w godi; darparodd y Cynulliad Cenedlaethol rant o £37 miliwn i gyfrannu at y cost, hefyd darparwyd £30.7 miliwn gan Gomisiwn y Mileniwm, a £9.8 miliwn gan Gyngor Celfyddyd Cymru. Rhoddwyd £10 milwn arall gan Donald Gordon, dyn busnes o Dde Affrica, a daeth gweddill yr arian angenrheidiol trwy gytundeb noddiant efo Cymdeithas Adeiladu'r Principality.
Math | canolfan gynadledda, canolfan y celfyddydau, adeilad digwyddiadau, sefydliad elusennol |
---|---|
Agoriad swyddogol | 28 Tachwedd 2004 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Bae Caerdydd |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.465°N 3.1635°W |
Perchnogaeth | Aviva Investors |
| |||||
Lleoliad | Bae Caerdydd, Caerdydd, Cymru | ||||
---|---|---|---|---|---|
Torri Tir | Chwefror 2002 | ||||
Agorwyd | Cyfnod 1-28fed o Dachwedd 2004 Cyfnod 2-31fed o Ionawr 2009 | ||||
Cost | GB£106.2 | ||||
Pensaer | Partneriaeth Percy Thomas, sydd bellach o'r enw Capita Architecture | ||||
Nifer o seddau | Theatr Donald Gordon: 1,897 BBC Hoddinott Hall: 350 Weston Studio Theatre: 250 |
Cynlluniodd rhan cyntaf y ganolfan gan Jonathan Adams, ac yr ail rhan gan Tim Green a Keith Vince. Dechreuodd gwaith adeiladu yn Chwefror 2002. Agorwyd rhan cyntaf yr adaeilad yn swyddogol yn Nhachwedd 2004 ac ail ddarn y prosiect - yn cynnwys Neuadd Hoddinott (gyda 350 o seddi) - ar 22 Ionawr 2009. Cynlluniwyd Neuadd Hoddinott yn fewnol fel capel.
Yn ogystal y mae saith sefydliad celfyddydol wedi eu lleoli yno, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru, yr Academi Gymreig Opera Cenedlaethol Cymru, Tŷ Cerdd, Diversions - Cwmni Dawns Cymru, Touch Trust a Hijinx. Mae canolfan Urdd Gobaith Cymru yno yn cynnwys canolfan o 150 gwely i blant Cymru allu aros yno. Mae 2 theatr, un gyda 1,900 o seddi ac y llall gyda 250. Mae stiwdio dawns, neuaddau ymarfer, stiwdios recordio, siopau, bars a chaffis. Maint y ganolfan yw 37,000 medr sgwâr. Adeiladwyd gwaliau'r ganolfan gyda llechfaen o lywiau gwahanol o chwareli ar draws Cymru; porffor o Benrhyn, glas o Chwarl Cwt-y-Bugail, gwyrdd o Chwarel Nantlle, llwyd o Chwarel Llechwedd a du o Chwarel Corris. Defnyddiwyd 3,600 o dunnellau o lechu. Defnyddiwyd breuan ddu rhwng y llechu i roi argraff bod y waliau heb freuan. Defnyddiwyd dur ar do'r adeilad i gynrychioli diwydiant arall Cymru..
Cyfansoddwyd y geiriau ar yr adeilad gan Gwyneth Lewis.
Ymwelodd dros 14.75 milwn o bobl â'r ganolfan yn ystod ei degawd cyntaf.
Llysenw'r adeilad yw'r "Armellog".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Canolfan Mileniwm Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.