Roedd Calvert Richard Jones (4 Rhagfyr 1804 – 7 Tachwedd 1877) yn enedigol o Abertawe ac yn ffotograffydd, yn fathemategydd ac yn arlunydd a arbenigai mewn tirluniau o'r arfordir.
Dywedir mai ef oedd y cyntaf i dynnu llun 'ffotograff' yng Nghymru: math 'Daguerreotype' a hynny o Gastell Margam yn 1841. Roedd hefyd yn arlunydd dyfrlliw medrus ac y mae ei waith yn dangos 'teimlad cryf am liw a ffurf' yn ôl Iwan Meical Jones.
Calvert Jones | |
---|---|
Calvert Richard Jones, yr Arglwyddes Brewster, Mrs Jones, Syr David Brewster a Miss Parnell (yn eistedd) | |
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1804 Abertawe |
Bu farw | 7 Tachwedd 1877, Rhagfyr 1877 Caerfaddon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffotograffydd, arlunydd |
Tad | Calvert Richard Jones |
Mam | Prudence Mansell |
Priod | Anne Harriet Williams, Portia Jane Smith |
Plant | Christina Henrietta Victoria Games Jones, Isabella Louisa Calvert Jones, Georgiana Alethea Calvert Jones |
Roedd ei rieni'n gyfoethog iawn, ac yn hanu o Abertawe. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Eton ac yng Ngholeg Oriel, Rhydychen lle graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn mathemateg. Wedi gadael y coleg, aeth yn rheithor yng Gasllwchwr ac yn y Rhath am gyfnod. Roedd yn gyfaill i John Dillwyn Llewelyn y botanegydd a'r ffotograffydd cynnar; cyfaill arall iddo o'i ddyddiau coleg oedd Christopher Rice Mansel Talbot, etifedd ystad fawr Margam a Phen-rhys. Drwy'r cyfeillgarwch hwn y daeth i wybod am ddarganfyddiadau eu cefnder William Henry Fox Talbot o Abaty Lacock, Wiltshire, dyfeisiwr y dull positif-negatif o wneud ffotograff.
Gan nad oedd proses Talbot wedi'i berffeithio, trodd yn gyntaf at y dull daguerrotype gan berffeithio'r grefft erbyn 1841. Drwy'r 1840au cydweithiodd gyda Talbot a chyda Ffrancwyr fel Hippolyte Bayard a bu'n ddolen gyswllt anhepgor rhwng arloeswyr Ffrainc a gwledydd Prydain. Erbyn 1846 yr oedd wedi troi at broses calotype Talbot. A dyma'i waith mwyaf nodedig, y ffotograffau calotype a dynnodd ddiwedd yr 1840au ar Ynys Malta, yn yr Eidal ac o gwmpas gwledydd Prydain. Danfonai'r negyddion at Talbot i'w hargraffu a'u gwerthu.
Teithiodd yn helaeth, gan gynnwys Ffrainc a'r Eidal gan ddatblygu techneg ei hun i greu llun ar ffurf panorama. Ymddiddorai hefyd mewn cerddoriaeth.
Yn 1847 etifeddodd llawer o diroedd ac Ystad Heathfield yn ardal Abertawe yn 1847 a dychwelodd adref. Adeiladodd strydoedd yng nghanol y ddinas, gan goffáu ei hanner brawd yn enw "Stryd Mansel" a'i ail wraig yn enw "Stryd Portia". Gadawodd Abertawe yn 1853 a byw ym Mrwsel.
Bu iddo un ferch o'i briodas gyntaf a dwy o'r ail briodas â Portia.
Enwyd 'Stryd Mansel' ar ôl ei frawd. Symudodd i Frwsel yn 1853 ac yna i Gaerfaddon lle bu farw ar 7 Tachwedd 1877. Yng nghapel y teulu yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe, fodd bynnag, y cafodd ei gladdu, cyn difa'r eglwys yn llwyr yn yr Ail Ryfel Byd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Calvert Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.