Roedd Cadwallon ap Cadfan (bu farw 633) yn frenin Gwynedd o tua 625 hyd ei farw.
Cadwallon ap Cadfan | |
---|---|
Ganwyd | 591 Teyrnas Gwynedd |
Bu farw | 634 Brwydr Hexham |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | Teyrnas Gwynedd |
Tad | Cadfan ap Iago |
Priod | merch Pybba o Mersia |
Plant | Cadwaladr |
Llinach | Teyrnas Gwynedd |
Etifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Cadfan ap Iago. Ymosododd Edwin o Deira (Northumbria heddiw) ar Wynedd gan gyrraedd cyn belled ag Ynys Môn gan orfodi Cadwallon i ffoi i Ynys Lannog ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629. Yn ôl Sieffre o Fynwy yr oedd Edwin flynyddoedd ynghynt wedi cael lloches gan dad Cadwallon, Cadfan, ac mae'r Trioedd Cymreig yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".
Daeth Cadwallon i gytundeb â Penda, brenin Mersia, ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym Meicen (neu Meigen: "Heathfield" yn Saesneg, sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn 632. Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.
Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol lladdwyd ef ym Mrwydr Hexham yn erbyn Oswald, brenin Brynaich.
Olynwyd Cadwallon gan ei fab, Cadwal('CadwalFendigaid').
Credir fod y gerdd Moliant Cadwallon yn perthyn i gyfnod Cadwallon ei hun. Mae'n bosibl mai Afan Ferddig a'i cyfansoddodd, er nad oes modd profi hynny. Yn ôl y gerdd, ymestynnai awdurdod Cadwallon o Fôn i Fynwy (Porth Sgiwed), a chyfeirir ato yn ymosod ar diriogaeth Elfed.
Ceir cyfeiriad at Afan Ferddig mewn un o'r Trioedd: "Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan," sy'n awgrymu mai ef oedd bardd llys Cadwallon.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cadwallon ap Cadfan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.