Asiantaeth sydd yn gyfrifol am gasglu a dadansoddi cudd-wybodaeth dramor ar gyfer llywodraeth ffederal Unol Daleithiau America yw'r CIA (Saesneg: Central Intelligence Agency, yn Gymraeg Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog).
Cesglir gwybodaeth ledled y byd, yn bennaf drwy ddefnyddio cudd-wybodaeth ddynol (HUMINT), a chaiff ei phrosesu a'i dadansoddi gan arbenigwyr y CIA yn ei bencadlys yn Langley, Virginia, ger y brifddinas Washington, D.C., ac mewn adrannau ar draws yr Unol Daleithiau a'r byd. Y CIA yw un o brif gyrff "y Gymuned Gudd-wybodaeth" Americanaidd, ac felly mae'n adrodd i'r Cyfarwyddwr dros Gudd-wybodaeth Genedlaethol ac yn canolbwytio yn bennaf ar ddarparu gwybodaeth i'r Arlywydd a'r Cabinet.
Enghraifft o'r canlynol | Foreign Intelligence Service, independent agency of the United States government |
---|---|
Label brodorol | Central Intelligence Agency |
Dechrau/Sefydlu | 18 Medi 1947 |
Lleoliad yr archif | National Archives and Records Administration |
Pennaeth y sefydliad | Director of the Central Intelligence Agency |
Sylfaenydd | Dwight D. Eisenhower, William J. Donovan, Allen Welsh Dulles, Harry S. Truman |
Rhagflaenydd | Office of Strategic Services |
Aelod o'r canlynol | United States Intelligence Community |
Gweithwyr | 21,575 |
Isgwmni/au | Central Intelligence Agency Office of Inspector General |
Rhiant sefydliad | Llywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau |
Pencadlys | Langley, Virginia |
Enw brodorol | Central Intelligence Agency |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.cia.gov |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nid yw'r CIA yn wasanaeth diogelwch gwladol megis yr FBI, ac felly nid oes ganddo ddyletswydd i orfodi'r gyfraith nac i weithredu fel heddlu tu mewn i ffiniau'r Unol Daleithiau. Dim ond ychydig o hawl ac adnoddau sydd gan y CIA i gasglu cudd-wybodaeth yn fewnwladol. Er nad yw'n unigryw wrth arbenigo mewn HUMINT, mae'r CIA yn gweithio i gydlynu a rheoli'n genedlaethol gweithgareddau HUMINT yr holl Gymuned Gudd-wybodaeth. Y CIA yw'r unig asiantaeth a chanddi'r hawl gyfreithlon i weithredu ac arolygu ymgyrchoedd cudd mewn gwledydd eraill ar orchymyn yr arlywydd. Defnyddia adrannau tactegol, megis y Special Activities Division, i ddylanwadu ar wleidyddiaeth mewn gwledydd eraill.
Ymgododd y CIA o'r Office of Strategic Services (OSS), asiantaeth a gyd-drefnodd ysbïo, propaganda, ac ymgyrchoedd cudd eraill megis "tanseilio'r gelyn" ar gyfer Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Sefydlwyd y CIA gan Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 1947. Yn ystod y Rhyfel Oer, y CIA oedd un o brif arfau'r Unol Daleithiau yn erbyn yr Undeb Sofietaidd a'r byd comiwnyddol. Mae tystiolaeth bendant o ran y CIA mewn sawl achos o ymyrraeth dramor, gan gynnwys disodli'r llywodraethau yn Iran (1953), Gwatemala (1954), a Chile (1973), ac mewn cefnogi unbenaethau a llywodraethau gormesol, a masnachu cyffuriau a gwerthu arfau. Er cwymp yr Undeb Sofietaidd ar ddechrau'r 1990au, mae'r CIA wedi ehangu ei swyddogaeth yn fwyfwy ers diwedd y Rhyfel Oer, gan gynnwys ymgyrchoedd parafilwrol cudd.
Ar droad y ganrif, symudodd canolbwynt y cyrff diogelwch cenedlaethol i derfysgaeth, ac hynny'n llwyr yn sgil ymosodiadau 9/11. Gwelid yr ymosodiad hwnnw yn fethiant cudd-wybodaeth gan yr holl Gymuned Gudd-wybodaeth, a'r CIA yn enwedig. Gwnaed ymdrechion i wella arferion yr asiantaethau wrth gydlynu cudd-wybodaeth, a rhoddwyd rhagor o gyllideb ac adnoddau iddynt ym maes gwrth-derfysgaeth. Cyn Deddf Diwygo Cudd-wybodaeth ac Atal Terfysgaeth 2004, bu Cyfarwyddwr y CIA ar y cyd yn bennaeth ar y Gymuned Gudd-wybodaeth; bellach, mae'r Cyfarwyddwr dros Gudd-wybodaeth Genedlaethol (DNI) yn uwch na'r CIA yn y gadwyn awdurdod. Er gwaethaf i'r corff drosglwyddo peth grym i'r DNI, mae'r CIA wedi tyfu ers 9/11. Yn ôl The Washington Post, y CIA oedd piau'r gyllideb uchaf o holl asiantaethau'r Gymuned Gudd-wybodaeth yn y flwyddyn 2010. Yn ddiweddar mae un o'i adrannau mwyaf, yr Information Operations Center (IOC), wedi dechrau canolbwyntio ar seiber-ryfela yn fwy na therfysgaeth fel bygythiad i UDA. Nodai ambell llwyddiant yn hanes diweddar y CIA, yn enwedig darganfod lleoliad Osama bin Laden, ond cyhuddai'r asiantaeth yn ffyrnig am ei weithgareddau sy'n groes i gyfraith ryngwladol a deddfau rhyfel megis extraordinary rendition ac artaith.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article CIA, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.