Cbac: Bwrdd arholi yn y Deyrnas Unedig

Mae CBAC (fe'i galwyd yn Cyd-bwyllgor Addysg Cymru tan 2007) yn fwrdd arholi sy'n darparu arholiadau, asesiadau, datblygiad proffesiynol, adnoddau addysgol, cefnogaeth i oedolion sy'n dysgu'r Gymraeg, a mynedfeydd i weithgareddau celfyddydol ieuenctid.

Yn draddodiadol, mae e wedi gwasanaethu Cymru, ond yn awr yn darparu arholiadau i Loegr a Gogledd Iwerddon hefyd.

CBAC

Cbac: Hanes, Cyfrifoldebau, Hygrededd

PencadlysCaerdydd
Sefydlwyd1948
LleoliadCymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon
Gwefanhttp://www.cbac.co.uk

Ym Medi 2018, bydd golygu Wicipedia Cymraeg yn un o heriau swyddogol y Fagloriaeth Gymreig; cyflwynwyd y briff gan Wici Môn ac fe'i derbyniwyd yn swyddogol gan CBAC yn Rhagfyr 2017.

Hanes

Sefydlwyd CBAC ym 1948. Mae'n elusen gofrestredig, yn gwmni a gyfyngir gan warant, ac yn perthyn i 22 awdurdod lleol Cymru. Mae is-gwmni, sef WJEC CBAC Services Ltd, yn darparu gwasanaethau argraffu a chyhoeddi arbenigol.

Cyfrifoldebau

Cymwysterau

Mae CBAC yn cynnig ystod o gymwysterau, yn bynciau traddodiadol, academaidd a rhai mwy galwedigaethol eu natur, yn Lefel Mynediad, TGAU, Lefel Uwch a Sgiliau Allweddol.

Yn 2007, ar ôl peilot o dair blynedd, daeth Bagloriaeth Cymru yn rhan o bortffolio CBAC. Bydd y cymhwyster ar gael yn gynyddol i ysgolion yng Nghymru ar lefelau canolradd ac uwch. Mae'r Fagloriaeth, neu'r Bac Cymreig fel y'i gelwir hefyd, yn cynnig rhaglen sy'n cynnwys gweithio gyda chyflogwyr, gweithgareddau yn y gymuned, ymchwiliad personol a sgiliau allweddol, yn ogystal ag astudiaethau TGAU, GNVQ neu Lefel Uwch.

Mae CBAC yn darparu cyfres o arholiadau arbennig ar gyfer oedolion sy'n dymuno dysgu Cymraeg.

Datblygiad Proffesiynol

Mae CBAC yn trefnu rhaglen o ddatblygiad proffesiynol gyda'u harbenigwyr pwnc a'u Prif neu Uwch Arholwyr. Darperir hyfforddiant mewn swydd mewn gwestai a chanolfannau cynadledda ledled Cymru a Lloegr. Mae CBAC hefyd yn trefnu cyrsiau yn arbennig ar gyfer athrawon y Gymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ac ar gyfer athrawon sy'n dysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r gwasanaeth yma ar gael drwy Gynllun Cenedlaethol HMS (Hyfforddiant Mewn Swydd) Cymru.

Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru

CBAC sy'n rheoli'r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru (GCaD), sy'n darparu adnoddau ar-lein rhad ac am ddim yn Gymraeg a Saesneg trwy ei wefan ryngweithiol.

Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru

Fel rhan o gytundeb rhwng CBAC ac awdurdodau lleol Cymru, mae CBAC yn rheoli Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae'r ddau gwmni hyn yn rhan o Gelfyddydau Ieuenctid Cymru, a gefnogir gan CBAC mewn partneriaeth â Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru.

Hygrededd

Yn Rhagfyr 2011, ataliwyd Paul Jones, un o Brif Arholwr hanes CBAC o'i waith am iddo gael ei ffilmio'n rhoi gwybod i athrawon beth oedd cynnwys y papur. Gwnaed hyn tra bod CBAC yn ymchwilio i mewn i gyhuddiadau gan y Telegraph. Dywedodd ar ffilm i'r athrawon: We're cheating, we're telling you the cycle. Probably the Regulator would tell us off. Ffilmiwyd Paul Barnes hefyd gan y Telegraph ar yr un cwrs yn datgelu cynnwys peth o'r papur arholiad i'r athrawon a oedd yn talu dros £200 yr un am y cwrs.

Dywedodd Geoff Lucas, cyn-gynorthwyydd Prif Weithredwr QCA, corff sy'n rheoleiddio cyrff arholi megis CBAC, "Part of me was shocked to hear words such as "We're cheating"...it's quite shocking." Galwodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd dros Addysg yn Lloegr, am ymchwiliad i mewn i'r sefyllfa.

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

Cbac: Hanes, Cyfrifoldebau, Hygrededd  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Cbac HanesCbac CyfrifoldebauCbac HygrededdCbac Dolenni allanolCbac CyfeiriadauCbacCymraegCymruGogledd IwerddonLloegr

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

The Next Three DaysY DdaearAnna Vlasova800Gwyddoniaeth gymhwysolCarles PuigdemontCymdeithas ryngwladolWoody GuthrieSweet Sweetback's Baadasssss Song210auGalileo GalileiCynnyrch mewnwladol crynswthTywysog CymruBen-HurLukó de RokhaTerra Em TransePOW/MIA Americanaidd yn FietnamAngela 2Sefydliad WicimediaJac y doHenry FordCyfunrywioldebCD14Tŷ pârWiliam Mountbatten-WindsorAction PointIestyn GeorgePleidlais o ddiffyg hyderCenhinen BedrNiwmoniaTwo For The MoneyRoyal Shakespeare CompanyMegan Lloyd GeorgeRhys MwynPriodasRMS TitanicArlene DahlWashington (talaith)Roy AcuffWiciJuan Antonio VillacañasRhyw llawUndeb Rygbi'r AlbanGwyddoniaeth naturiolThe Terry Fox StoryCymryDwight YoakamWoyzeckMean MachineIncwm sylfaenol cyffredinolYnniSeiri RhyddionBlogFfilm llawn cyffroBaner yr Unol DaleithiauDestins ViolésLlywelyn ap GruffuddSbaenegFfederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droedCefin Roberts16936 IonawrRhyw rhefrolPrifadran Cymru (rygbi)The Black CatEugenie... The Story of Her Journey Into PerversionGoogle ChromeDisturbiaMalathionUndduwiaethPlanhigyn🡆 More