Brwydr Fforest Teutoburg

Brwydr rhwng cynghrair o lwythau Almaenig a byddin Rufeinig yn y flwyddyn 9 OC oedd Brwydr Fforest Teutoburg (Almaeneg: Schlacht im Teutoburger Wald, Varusschlacht neu Hermannsschlacht).

Ymladdwyd y frwydr dros nifer o ddiwrnodau, yn ôl pob tebyg rhwng 9 Medi ac 11 Medi, a'r canlyniad oedd i dair lleng Rufeinig dan Publius Quinctilius Varus, (Legio XVII, Legio XVIII a Legio XIX), gael eu dinistrio'n llwyr gan yr Almaenwyr dan Arminius mab Segimer ("Hermann" mewn Almaeneg diweddar).

Brwydr Fforest Teutoburg
Brwydr Fforest Teutoburg
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
DyddiadMedi 0009 Edit this on Wikidata
Rhan oEarly Imperial campaigns in Germania Edit this on Wikidata
LleoliadOsnabrück Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brwydr Fforest Teutoburg
Golygfa o'r Hermannsdenkmal

Roedd colledion y Rhufeiniaid yn fwy nag yn unrhyw frwydr yn erbyn gelyn allanol ers Brwydr Cannae yn erbyn Hannibal. Ni chafodd y tair lleng a ddinistriwyd eu hail-ffurfio. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig Suetonius, gyrrwyd yr ymerawdwr Augustus bron yn wallgof gan y newyddion am y digwyddiad, gan daro ei ben yn erbyn muriau y palas a gweiddi Quintili Vare, legiones redde! ("Quintilius Varus, rho fy llengoedd yn ôl imi!")

Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd Afon Rhein. Yn 14 OC, yn fuan wedi i Tiberius olynu Augustus fel ymerawdwr, bu nai Tiberius, Germanicus, yn ymgyrchu yn y tiriogaethau hyn, a chawsant hyd i safle'r frwydr, Yn ôl yr hanesydd Tacitus, roedd yn olygfa enbyd, gyda phentyrrau o esgyrn a phenglogau wedi eu hoelio wrth goed. Erbyn 16 roedd Germanicus wedi llwyddo i adennill eryr dwy o'r tair lleng. Yn ôl Cassius Dio, llwyddodd Publius Gabinius i adennill y trydydd eryr oddi wrth lwyth y Chauci yn 41, yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Claudius, brawd Germanicus.

Yn y 19fed ganrif, yn enwedig yn yr ymladd yn erbyn Napoleon ar ddechrau'r ganrif, daeth y frwydr yn symbol bwysig i genedlaetholdeb Almaenaidd. Bu ansicrwydd ynghylch safle'r frwydr hyd nes i ymchwil archaeolegol ddiwedd yr 20g awgrymu i ran ohoni fod o gwmpas Bryn Kalkriese, rhan o Bramsche, i'r gogledd o Osnabrück. Adeiladwyd y Varusschlacht Museum i arddangos y darganfyddiadau.

Llyfryddiaeth

  • Adrian Murdoch, Rome's Greatest Defeat: Massacre in the Teutoburg Forest, Sutton Publishing, Stroud, 2006, ISBN 0-7509-4015-8

Tags:

11 Medi9 MediAlmaenegArminiusLleng RufeinigYr Ymerodraeth Rufeinig

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Baner enfys (mudiad LHDT)Waltham, MassachusettsFfraincThe Law West of TombstoneWarLightDewi Watkin PowellGwrychredynen-y-celyn y tŷRaajneetiSbaenegCascading Style SheetsElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigBroken LanceAfter EarthWelsh WhispererThe Golden TrailVin DieselTexas City, TexasYr WyddfaNolan GouldWicidestunWythnos Yng Nghymru FyddHombreChwiliwchHomo sapiensCaerloywThe Law of The RangeMoscfaPlymouthPeter HiggsYr ArianninPrifddinasShinzō AbeCanolfan Masnach y BydSpirit of The WestForty GunsParsifalCalsugnoMynediad am DdimClearing The RangeAl LewisFfilm bornograffigGogledd CoreaWhittington, Swydd GaerhirfrynHenry David ThoreauGwenan GibbardShowdown in Little TokyoFeederTyrcegSwarabhishekamIdris ReynoldsLloegrTeiloJoseph SmithRhyw geneuolSefydliad ConfuciusDEMOAtalnodiIndonesiaYsgoloriaeth yr Urdd Bryn TerfelElizabeth TaylorLlanbebligTua'r DalarDiego MaradonaWiciCiJosefine Mutzenbacher – Wie Sie Wirklich WarDinas Efrog NewyddMilizsoldat BrugglerIran🡆 More