,
Bronwen y dŵr Cinclus cinclus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Cinclidae |
Genws: | Cincius[*] |
Rhywogaeth: | Cinclus cinclus |
Enw deuenwol | |
Cinclus cinclus Linnaeus, 1758
| |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Bronwen y dŵr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: bronwennod y dŵr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Cinclus cinclus; yr enw Saesneg arno yw White-throated dipper. Mae'n perthyn i deulu'r Trochwyr (Lladin: Cinclidae) sydd yn urdd y Passeriformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae hefyd i'w ganfod yng Nghymru. Mae'n aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru, er fod y niferoedd wedi lleihau mewn rhai ardaloedd.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. cinclus, sef enw'r rhywogaeth. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin trwy Ewrop a'r Dwyrain Canol.
Ceir nifer o is-rywogaethau:
Nid yw Bronwen y Dŵr yn aderyn mudol fel rheol, ond mae C. c. cinclus yn symud tua'r de yn y gaeaf. Fe'i ceir ar afonydd a nentydd, ac weithiau ar lynnoedd, ond fel rheol ar afonydd lle mae'r dŵr yn llifo'n gyflym. Ei brif fwyd yw pryfed ac anifeiliaid bychan o wahanol fathau, ac mae'n medru trochi dan y dŵr i'w dal.
Nid yw'r fronwen ddŵr yn symyd ymhell iawn o'i milltir sgwâr enedigol ond mae eithriadau. Dyma rannau o adroddiad gan Wil Williams o bapur bro Llangefni o un symudiad ychydig yn anarferol:
“ | Bronwen y dŵr Efallai i rai ohonoch, drigolion Llangefni, weld Kelvin a fi yn Ilythrennol yn yr Afon Cefni yng nghanol Llangefni rhwng 6.30 a 9.00 o'r gloch bore dydd Gwener, 26 Mai [2017]. Bore bendigedig o braf a chynnes. Roeddwn wedi derbyn e-bost oddi wrth Kelvin (Kelvin Jones, Trefnydd y British Trust for Ornithology (BTO) dros Cymru) yn dweud bod yna Fronwen y Dwr wedi ei modrwyo yng nghanol Llangefni ac 'nad oedd hanes o Fronwen y Dwr wedi cael ei modrwyo ym Môn ers pan oedd Noah yn hogyn bach'! .... Gwelwyd bod y Fronwen Ddŵr gyda'r fodrwy, yn ardal y bont sydd yn arwain o siop cigydd Jacki Thomas a dan y bwa am siop Asda. ... fe'i dalwyd! Drwy chwythu ar ei bol, gwelwyd clwt moel o blu, Ile bu'r iar, felly yn gori ei wyau. Cafodd ei mesur a'i phwyso a gwnaed nodyn o'r manylion oedd ar y fodrwy. Roedd yn pwyso 60 gram. .... Y diwrnod canlynol cefais wybod gan Kel mai fo, yn wir, oedd wedi dal a modrwyo'r aderyn, yn un o bum cyw, ar 19 Ebrill 2012, ar yr Afon Dwyfach, rhwng Bryncir a Phant Glas! | ” |
Roedd yr aderyn hwn felly dros bum mlynedd oed ac roedd wedi symud oddeutu 25 milltir dros y cyfnod.
Mae'r bronwen y dŵr yn perthyn i deulu'r Trochwyr (Lladin: Cinclidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Accentor cacharensis | Accentor cacharensis | |
Accentor fagani | Accentor fagani | |
Accentor fervidus | Accentor fervidus | |
Accentor huttoni | Accentor huttoni | |
Accentor immaculatus | Accentor immaculatus | |
Accentor jerdoni | Accentor jerdoni | |
Accentor modularis | Accentor modularis | |
Accentor orientalis | Accentor orientalis | |
Bronwen y dŵr | Cinclus cinclus | |
Cinclus ardesiacus | Cinclus ardesiacus | |
Cinclus cashmeriensis | Cinclus cashmeriensis | |
Trochwr Gyddfgoch | Cinclus schulzii | |
Trochwr brown | Cinclus pallasii | |
Trochwr llwyd | Cinclus mexicanus | |
Trochwr penwyn | Cinclus leucocephalus |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bronwen y dŵr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.